Dysgu Proffesiynnol


Cofrestriad

Mae’r RhGMC yn darparu cyngor, adnoddau a dysgu proffesiynol i athrawon i helpu i gyfoethogi profiad mathemategol myfyrwyr a hyrwyddo astudiaeth barhaus o fathemateg. Rydym hefyd yn cynnal ymchwil gweithredu mewn partneriaeth ag athrawon. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ysgolion a cholegau ac rydym wedi bod yn darparu dysgu proffesiynol ers 2014. Rydym wedi cefnogi cannoedd o athrawon o ysgolion / colegau ledled Cymru. Er bod ein dysgu proffesiynol (DP) yn canolbwyntio yn bennaf (er nad yn gyfan gwbl) ar CA5 yn nhermau cynnwys, mae pob cwrs hefyd yn ceisio datblygu addysgeg effeithiol ac yn cefnogi Cwricwlwm Cymru yn hyn o beth.

Mae’r RhGMC wedi datblygu ystod eang o adnoddau ein bod yn hapus iawn i rannu gydag athrawon. Mae cofrestru hefyd yn rhoi mynediad am ddim i athro defnyddiwr sengl i adnoddau mathemateg bellach Integral. Mae’r adnoddau’n cynnwys deunyddiau i gefnogi addysgu a dysgu Mathemateg Safon Uwch a Mathemateg Bellach, y rhan fwyaf o bynciau Tystysgrif lefel 2 mathemateg ychwanegol ac Arholiadau STEP.  

Mae cofrestru hefyd yn rhoi mynediad i’n hamrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi am ddim gan gynnwys gweithdai undydd, sesiynau ar-lein, sesiynau pwnc / modiwl penodol, opsiynau yn yr ysgol yn ogystal â chyrsiau hirach. Gweler cyfleoedd dysgu proffesiynol isod.

I gael mynediad i’r uchod, cofrestrwch yma.

Cefnogaeth leol

Cydlynwyr Ardal

Bydd gennych Gydlynydd Ardal (CA) ar gyfer eich rhan chi o Gymru. Mae yna hefyd aelodau arweiniol o’r tîm ar gyfer dysgu proffesiynol, adnoddau ac ati. Mae eu manylion yma. Gallwch gysylltu â’r arweinydd DP neu eich CA lleol i drafod eich anghenion DP.

Cymorth Cwricwlwm

Cyrsiau Dysgu Proffesiynol

Mae RhGMC yn cynnig Cyrsiau Dysgu Proffesiynol ar gyfer Mathemateg Ychwanegol Lefel 2 Haen Uwch TGAU a phob Modiwl Safon Uwch trwy wasanaeth Ar Alw. Mae’r dull newydd hwn yn opsiwn astudio hyblyg ar-lein i athrawon.

Mae RhGMC hefyd yn cynnig Dysgu Proffesiynol ar gyfer pob un o’r chwe uned Mathemateg Bellach dros ddwy flynedd academaidd. Yn 2023 i 2024, bydd y RhGMBC yn darparu Dysgu Proffesiynol ar-lein ac wyneb yn wyneb ar gyfer MBU1, MBU5 ac MBU6, ar draws y flwyddyn academaidd gyfan. Yn 2024 i 2025 bydd MBU2, MBU3 a MBU4 yn cael eu cynnig yn yr un fformat.

Mae RhGMBC hefyd yn cynnig ystod eang o gyrsiau Dysgu Proffesiynol byr ar gyfer Geogebra a DESMOS, ynghyd â’n gweithdai addysgeg.

Ein Deunyddiau
  • Cynllun gwaith llawn adnoddau ar gyfer mathemateg a mathemateg bellach Safon Uwch
  • Fideos Mathemateg UG Ystafell Ddosbarth Wyneb i Waered
  • Fideos Mathemateg UG Adolygu Cwestiynau Arholiad
  • Atgyfnerthu Mathemateg UG
  • Fideos Mathemateg A2 Ystafell Ddosbarth Wyneb i Waered
  • Fideos Mathemateg A2 Adolygu Cwestiwn Arholiad
  • Fideos Mathemateg Bellach AS Ystafell Ddosbarth Wyneb i Waered
  • Fideos Mathemateg Bellach AS Adolygu Cwestiynau Arholiad
  • Fideos Mathemateg Bellach A2 Ystafell Ddosbarth Wyneb i Waered
  • Fideos Mathemateg Bellach A2 Adolygu Cwestiynau Arholiad
  • Cyfres amrywiol o fideos trosglwyddo a chyfoethogi
  • Mynediad i adnoddau Mathemateg a Mathemateg Bellach Safon Uwch Integral

Ar gyfer deunyddiau cefnogi cwricwlwm ewch i’n tudalen Cymorth Cwricwlwm.

Digwyddiadau Dysgu Proffesiynol Diweddaraf

DP Dull Ystafell Dddosbarth Wyneb i Waered - Cwrs a Weithredu'r Dull Ystafell Ddosbarth Wyneb i Waered
Dysgu Proffesiynol 2023/24 - Cyrsiau Dysgu Proffesiynol
Geogebra Ystadegaeth Lefel 1: Safon Uwch - Geogebra fel adnodd i addysgu Mathemateg Ystadegaeth Safon Uwch (MU2)
Geogebra Mecaneg Lefel 1: Mathemateg Safon Uwch - Geogebra fel adnodd i ddysgu Macaneg Mathemateg Safon Uwch (MU2/4)
Mathemateg Bellach 4 – Cwrs Dysgu Proffesiynol - MBU4 Cwrs Dysgu Proffesiynol
Mathemateg Bellach 6 – Cwrs Dysgu Proffesiynol - MBU6 Cwrs Dysgu Proffesiynol
Cwrs Dysgu Proffesiynol Mathemateg Safon Uwch AR ALW - Cwrs Dysgu Proffesiynol Mathemateg Lefel A
Cwrs Dysgu Proffesiynol Mathemateg Ychwanegol Lefel 2 AR ALW - Cwrs Dysgu Proffesiynol Mathemateg Ychwanegol

Astudiaethau Achos

Ysgol Gyfun Radur “Rwyf wedi magu hyder a byddaf yn gallu dysgu Mathemateg Bellach Uned 2 y flwyddyn nesaf, sy’n helpu Ysgol Gyfun Radur i barhau i gynnig Mathemateg Bellach …” Darllen mwy… 

Ysgol Penglais “Fe wnes i fwynhau defnyddio’r adnoddau hunan-astudio. Roeddwn yn gallu gweithio ar fy nghyflymder fy hun.” Darllen mwy…

Ysgol Gyfun Trefynwy “Mwynhaodd yr athrawon y fformat hwn o ddysgu proffesiynol. Roeddent yn gweld bod y sleidiau a’r adnoddau cyn y sesiwn cymorth dan gyfarwyddyd yn ddefnyddiol iawn.” Darllen mwy…

Emma Pugh Ysgol Gyfun Porthcawl “Rydym wedi cael hyfforddiant pwrpasol ar bynciau yr ydym wedi gofyn amdanynt ac rydym wedi gallu hyfforddi ein holl staff.” Darllen mwy…

Gwenallt Jones Ysgold Bro Teifi “Rwy’n teimlo’n hyderus wrth addysgu’r unedau ystadegau ac ennill yr adnoddau sydd eu hangen i addysgu’r maes llafur a’r cynnwys cyfan.” Darllen mwy…

Clare Power Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan“Roedd y cwrs yn dda ar gyfer cwrdd ag athrawon eraill ac yn sicr cafodd fy ymennydd weithio ar bynciau mathemateg pellach mwy anodd.” Darllen mwy…

Helen Hayes Ysgol Uwchradd Bryn Elian “Cwrs ardderchog, mae’n cynnwys y maes llafur cyfan o FP1 ac rwy’n teimlo’n llawer mwy hyderus yn awr gydag esboniadau a rhesymu y tu ôl i ddulliau.” Darllen mwy…

Laura Makarek Ysgol Caldicot “Mae’n rhoi cyfle i chi ddysgu technegau newydd nid yn unig gan y tiwtor ond gan yr athrawon eraill ar y cwrs. Mae wedi rhoi hyder i mi gyflwyno FP1.” Darllen mwy…

Stuart Ball Ysgol Gyfun Caerleon “Mae gen i wybodaeth llawer dyfnach o’r cwrs ac rwy’n teimlo’n hyderus i fynd i’r afael â llawer o bynciau o sawl dull gwahanol.” Darllen mwy…

Gorffennol | Digwyddiadau Dysgu Proffesiynol
2024 Cynhadledd ACAM - Cliciwch yma
Geogebra Lefel 2: Safon Uwch - Geogebra fel adnodd i ddysgu Mathemateg Safon Uwch (MU3)
Geogebra Lefel 1: TGAU - Geogebra fel arf i addysgu Mathemnateg TGAU
Mathemateg Bellach 5 – Cwrs Dysgu Proffesiynol - Mathemateg Bellach 5 - Cwrs Dysgu Proffesiynol
2022 ACAM - 2022 ACAM
Darlith yr Ymddiriedolaeth Addysgu Ystadegaeth 2021-2022 - Rydym yn byw mewn byd sy'n canolbwyntio fwyfwy ar ddata, lle mae'n hanfodol i bawb fod ag ymwybyddiaeth ystadegol ac adeiladu ar eu synhwyrau ystadegol. ..
Geogebra Canolradd drwy Gyfrwng Cymraeg - Geogebra drwy Gyfrwng Cymraeg
Hafaliadau Differol trefn un - Gweithdy Dysgu Proffesiynol