Pam Astudio Mathemateg?

Sgiliau Dadansoddol

Sgiliau dadansoddi yw’r rhai sy’n ein helpu i ddeall a datrys problemau. Maent yn dibynnu ar wybod neu allu dod o hyd i wybodaeth berthnasol yn ogystal â meddwl yn rhesymegol i ddefnyddio’r wybodaeth hon i ddod o hyd i ateb. Mae datrys problemau mathemategol yn darparu hyfforddiant rhagorol i ddatblygu’r sgiliau hyn.

Mathemateg yw’r unig bwnc Safon Uwch sy’n cynnig dau gymhwyster Safon Uwch – Mathemateg a Mathemateg Bellach. Yn eu canllaw ‘Informed Choices’ o dan “Pa bynciau sy’n rhoi’r mwyaf o opsiynau ichi” mae’r Grŵp Russell o 24 o Brifysgolion blaenllaw’r DU yn rhestru Mathemateg a Mathemateg Bellach ar y brig.

“Mae sgiliau mathemateg lefel uchel yn agor drysau i gymaint o yrfaoedd i’n dysgwyr a rhaid inni eu cefnogi i gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo”

Cyn-Weinidog Addysg Cymru Huw Lewis.

Cymhwyso i feysydd eraill

Mae galw mawr am y sgiliau a enillwyd o astudio pwnc gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg neu fathemateg (STEM) Safon Uwch neu lefel gradd gan gyflogwyr. Mae graddedigion sydd â graddau STEM yn ennill cyflogau 5% i 10% yn uwch ar gyfartaledd nag ar gyfer graddedigion yn gyffredinol.

Mae ystod eang o bynciau STEM a phynciau nad ydynt yn bynciau STEM yn seiliedig ar fathemateg. Bydd bod â gwybodaeth fathemategol eang a gallu technegol sicr yn helpu’r trosglwyddiad o’r chweched dosbarth i addysg uwch. Wrth gwrs, mae tiwtoriaid derbyn a chyflogwyr yn chwilio am y gallu i weithio mewn tîm, cyfathrebu’n effeithiol a dangos menter, ond mae sgiliau mathemategol da hefyd yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr.


Addysg Uwch a Gyrfaoedd

  • Mathscareers
    Gwybodaeth am y nifer o yrfaoedd hynod ddiddorol y gall astudio mathemateg arwain atynt.
  • Plus Magazine
    Cyfweliadau â phobl a gymerodd raddau cysylltiedig â mathemateg, gan egluro eu llwybr gyrfa a’r hyn y maent yn ei wneud nawr.
  • Prospects
    Yn manylu ar yrfaoedd posib yn dilyn gradd mathemateg, a gyrfaoedd eraill sy’n gofyn am Fathemateg Safon Uwch.
  • Royal Statistical Society
    Canllawiau ac erthyglau defnyddiol ar gyfer gyrfaoedd sy’n defnyddio ystadegau.
  • Russell Group
    I’ch helpu i ddeall pa bynciau sy’n arwain at wahanol raddau, yn benodol ym mhrifysgolion Grŵp Russell.
  • StatsLife
    Canllawiau ar yrfaoedd sy’n defnyddio ystadegau.
  • UCAS website
    Mae gan wefan UCAS amrywiaeth o offer ar gyfer helpu myfyrwyr i ddewis y cwrs iawn ar gyfer addysg uwch.
  • AMSP
    Mae gan wefan AMSP dudalennau defnyddiol ‘Beth Nesaf’ ar gyfer Mathemateg Safon Uwch / UG a Mathemateg Bellach.

Mae sawl prentisiaeth Uwch a Gradd yn cynnig llwybrau i yrfaoedd sy’n llawn mathemateg, gan gynnwys cyfrifeg, gwyddoniaeth actiwaraidd, pensaernïaeth, peirianneg a gwyddoniaeth data.

Gyrfaoedd mewn Mathemateg

Cymerwch gip ar ein fideos gyrfaoedd mewn mathemateg

Rhan 1

Rhan 2