Mathemategwyr Cymraeg

Yn hanesyddol, mae Mathemategwyr Cymreig, fel llawer i wyddonwyr y DU, wedi tueddu i fod yn wyn ac yn ddynion. Yn y dyfodol mae hyn yn debygol o fod yn wahanol iawn! I weld detholiad amrywiol o fathemategwyr gorau, gweler ein fideos Gyrfaoedd mewn Mathemateg.

Robert Recorde 1512?-1558

Yn enedigol o Ddinbych-y-pysgod, dyfeisydd yr arwydd hafal (=) ac awdur llyfrau mathemateg ar gyfer pobl gyffredin: athro penigamp.

Wikipedia Commons (1740)

William Jones 1674-1749

Yn enedigol o Lanfihangel Tre’r-beirdd,Ynys Môn: mathemategydd a gyflwynodd yr arwydd π i ddynodi’r gymhareb rhwng cylchedd cylch a’i ddiamedr. Cyfaill agos i Isaac Newton.

Paentiad gan Benjamin West (1784).
Trwy ganiatâd gan Paul Frame

Richard Price 1723-1791

Yn enedigol o Langeinwyr (Cwm Garw, ger Pen-y-bont ar Ogwr): athronydd, pregethwr, radical a mathemategydd a sefydlodd hafaliad Bayes-Price yn sail ar gyfer mathemateg yswiriant.

Engrafiad gan William Say (1803) ar ôl paentiad gan George Hounsom.
Trwy ganiatâd Paul Frame

William Morgan 1750-1833

Yn enedigol o Ben-y-bont ar Ogwr: meddyg a mathemategydd a sefydlodd waith actiwari yn broffesiwn.

Gwasanaeth Archifau Gwynedd

Griffith Davies 1788-1855

Yn enedigol o’r Groeslon, Arfon: mathemategydd ac actiwari rhadlon, cymwynasgar ac uchel ei barch.

Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor

George Hartley Bryan 1864-1928

Ganed yng Nghaergrawnt, treuliodd ei yrfa ym Mhrifysgol Bangor: mathemategydd o fri a gyhoeddodd Stability in Aviation yn 1913, yn sail i wyddor hedfan.

Wikipedia Commons (1957)

Bertrand Russell 1872-1970

Ganed ym mhentref Tryleg, Sir Fynwy: athronydd, rhesymegydd, mathemategydd ac ymgyrchydd dros heddwch: ceisiodd sefydlu rhifyddeg ar dir rhesymeg gadarn.

Wikipedia Commons

Lancelot Thomas Hogben 1895-1975

Ganed yn Southsea, swydd Hampshire, a’i fawysiadu gan bentref Glyn Ceiriog: swolegydd arbrofol ac ystadegydd meddygol, a phoblogeiddiwr mathemateg a gwyddoniaeth.

Trwy ganiatâd Archif Niels Bohr

Evan James Williams 1903-1945

Ganed ym mhentref Cwmsychbant, Ceredigion: ffisegydd a ddefnyddiodd fathemateg i ddadansoddi’r atom.

Trwy ganiatâd y Labordy Ffisegol Cenedlaethol.

Donald Watts Davies 1924-2000

Ganed yn Nhreorci, y Rhondda: gwyddonydd cyfrifiadurol a arloesodd y dull o drosglwyddo data mewn pacedi; tad bedydd y rhyngrwyd fodern.

Mary Wynne Warner 1932-1998

Ganed yng Nghaerfyrddin: mathemategydd arloesol ‘a fanylodd ar anfanyldeb’, gan ddryllio nenfwd gwydr rhywedd.

John Frankland Rigby 1933-2014

Ganed ger Manceinion, treuliodd ei yrfa ym Mhrifysgol Caerdydd: geometregydd ac addysgwr rhyfeddol.