Astudiaethau Achos

Myfyrwyr

Nathanial Strong Prifysgol Caerfaddon

Rwyf wedi gweld bod y sgiliau datrys problemau a meddwl yn feirniadol a ddysgais drwy astudio Mathemateg Bellach wedi bod yn berthnasol i bob maes o’m gradd. Darllenwch fwy

Inyoung Baek – Clare College – University of Cambridge
“Byddwn yn cynghori pawb i bendant gymryd Mathemateg Bellach ar gyfer gradd
trwm Mathemateg fel peirianneg, cyfrifiadureg, bydd yn rhoi mantais i chi.” Darllenwch fwy…

Isabella Carter – Ysgol Uwchradd Gatholig Archdderwydd McGarth
“Trwy astudio Mathemateg Bellach, rwyf wedi gallu datblygu fy sgiliau
meddwl beirniadol, rhesymu meintiol a sgiliau datrys problemau.” Darllenwch fwy…

Gillian Coleman – Ysgol Y Creuddyn – Lancaster University
“Mwynheais y cyfle i ddatrys rhagor o broblemau mathemateg.” Darllenwch fwy…

Jac Fernandez Jon – Cardinal Newman
“Mae Mathemateg Bellach wedi dysgu sgiliau rheoli amser i mi a hefyd wedi dysgu am ddyfalbarhad.” Darllenwch fwy…

Marged Ioan – Ysgol Bro Teifi
“Cyflwynodd RhGMB fi i athrawon newydd a roddodd olwg arall o Fathemateg sy’n wahanol i’r hyn a ddysgodd fy athro dosbarth i mi.”

Peredur Morgan – Ysgol Penweddig
“Rhoddodd Mathemateg Bellach sgiliau astudio annibynnol i mi.” Darllenwch fwy…

Nia Patel – Ysgol Gyfun Aberaeron
“Rhoddodd y cynnwys a addysgir mewn mathemateg bellach wybodaeth sylfaenol gryf i mi cyn y brifysgol, mae astudio Mathemateg Bellach yn caniatáu i fyfyrwyr fod yn fwy parod ar gyfer prifysgol a gwneud y flwyddyn gyntaf ychydig yn haws.” Darllenwch fwy…

Alex McGinty – Ysgol Lewis Pengam
“Cymerais MB Uned 1 yn yr ysgol a MB Uned 2 a MB Uned 3 ar lein gyda RhGMB” Darllenwch fwy…

Amaan Abbasi – Ysgol Dyffryn Conwy
“Rwy’n bendant yn cytuno bod Mathemateg Bellach wedi helpu trosglwyddo i’r Brifysgol.” Darllenwch fwy…

Brandon Andrews – Cardinal Newman
“Roedd rhai o fy nosbarthiadau ar-lein, fe ddysgodd i mi estyn allan a gofyn cwestiynau, mae’r RhGMB wedi fy nysgu i weithio’n annibynnol.” Darllenwch fwy…

David Wedge – Ysgol Y Creuddyn
“Cyflwynodd y rhaglen fi i gynnwys y gwaith sylfaenol ar ddechrau gradd Mathemateg Prifysgol, ac felly gwnaeth y trawsnewid yn llawer haws.” Darllenwch fwy…

Sian Phillips – Ysgol Gymraeg Dewi Sant
“Cyn cychwyn ar y cwrs roeddwn yn poeni am yr agwedd ar-lein ond deuthum i arfer yn gyflym â’r gwahanol arddull o ryngweithio a llwyddais i ddysgu o’r gwersi hyn mor hawdd ag o addysgu wyneb yn wyneb.” Darllenwch fwy…

Rokas Bakutis – Ysgol Uwchradd Gatholig St Richard Gwyn
“Darparodd RhGMBC adnoddau da iawn fel y sesiynau adolygu ym Mangor a gwefan Integral.” Darllenwch fwy…

Corey Jones – Ysgol Uwchradd Gatholig St Richard Gwyn
“Credais ei fod yn hynod o ddiddorol i gymryd cysyniadau rydw i wedi’u dysgu mewn Mathemateg Safon Uwch a’u defnyddio mewn gwahanol ffyrdd.” Darllenwch fwy…

Christian Jones – YSgol Uwchradd Gatholig St Richard Gwyn
“Credaf hefyd fod defnyddio RhGMBC yn fonws enfawr, gan ei fod yn profi y gallwch astudio’n effeithiol, yn effeithlon ac yn annibynnol.” Darllenwch fwy…

William Thomas – Ysgol Bro Gwaun
“Mae astudio trwy’r Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach yn dangos i brifysgolion eich bod yn unigolyn aeddfed sy’n gallu meddwl yn rhesymegol ac astudio’n annibynnol.” Darllenwch fwy…

Jessica Akins – Ysgol Uwchradd Cei Connah
“Roedd y cwrs yn ddefnyddiol iawn i mi, a chredaf y byddai o fudd i lawer o fyfyrwyr eraill ei gwblhau gan y gall helpu gyda’r gofynion gradd ar gyfer ceisiadau Prifysgol.” Darllenwch fwy…

Arkady Wey – Ysgol Syr Thomas Picton
“Byddwn yn argymell y cymhwyster i unrhyw un sy’n mwynhau her, ac sydd â meddwl mathemategol.” Darllenwch fwy…

Anna Clancy – Ysgol Maesydderwen
“Fe wnes i fwynhau’r cwrs yn fawr oherwydd roedd y pynciau’n fwy heriol a diddorol nag mewn Lefel A Mathemateg arferol. Byddwn yn bendant yn argymell Mathemateg Bellach i unrhyw un sydd â diddordeb mewn Mathemateg ac sy’n meddwl am wneud gradd Mathemateg yn unrhyw le.” Darllenwch fwy…

Wayne Edwards – Ysgol Syr Thomas Picton
“Cefais diwtoriaid gwych gyda RhGMBC, a oedd yn hawdd iawn cyfathrebu â nhw er bod y gwersi ar-lein, a helpodd fi i gwblhau’r cwrs ac ennill y radd A* yr oeddwn ei hangen mewn Mathemateg Bellach..” Darllenwch fwy…

Joseph McCambridge – Ysgol Bro Pedr
“Roedd y gwersi ar-lein yn hawdd eu cyrchu ac roedd yn ffordd newydd ddiddorol o ddysgu. Mae’n wahanol iawn i’m dosbarthiadau Safon Uwch arferol ond yn dal i fod yn brofiad da a defnyddiol iawn.” Darllenwch fwy…

Rebecca Thomas – Ysgol Tregŵyr
“Byddwn yn bendant yn argymell cymryd y pwnc, yn enwedig i’r rhai sy’n meddwl am radd mewn Mathemateg a hyd yn oed i’r rhai sy’n mwynhau Mathemateg ac a hoffai weithio trwy bynciau ychydig yn anoddach a gwthio eu galluoedd ymhellach.” Darllenwch fwy…

Mike Jarrett – Ysgol Syr Thomas Jones
“Mae’r cwrs Mathemateg Bellach yn caniatáu ichi ddefnyddio’r technegau o’r cwrs Mathemateg Lefel A mewn sefyllfaoedd llawer mwy datblygedig a mwy manwl, sy’n rhoi gwell dealltwriaeth i chi o sut y gellir eu defnyddio.” Darllenwch fwy…

Eve Clune-Clarkson – Ysgol Martin Sant
“Rydw i mor falch fy mod i wedi cymryd Mathemateg Bellach, fe barodd i mi syrthio mewn cariad â Mathemateg.” Darllenwch fwy…

Emlyn Williams – Ysgol Syr Thomas Jones
“Roedd astudio Mathemateg Bellach yn gofyn am lawer o waith caled ac astudio annibynnol ond roedd yn werth chweil yn bendant, fe helpodd fi i ddatblygu fy sgiliau ymchwilio a datrys problemau.” Darllenwch fwy…

Athrawon

Ms Angharad Parsons – Ysgol Tregŵyr
“Cefais RhGMBC yn hynod ddefnyddiol, yn bennaf wrth roi cyfle i ddisgyblion ennill cymhwyster nad oeddem yn gallu darparu ar ei gyfer, a hefyd wrth ddarparu dosbarthiadau adolygu hynod ddefnyddiol i’r chweched dosbarth eu defnyddio.” Darllenwch fwy…

Andrea Picton-Davies – Pennaeth Mathemateg – Ysgol Syr Thomas Picton
“Mae ein cydweithrediad â’r RhGMBC wedi profi i weithio’n dda. Fel mewn llawer o ysgolion eraill, nid yw ein dosbarth Mathemateg Bellach UG wedi’i amserlennu ac rydym yn gwerthfawrogi help RhGMBC yn fawr iawn.” Darllenwch fwy…

Colin Fleming – Pennaeth Mathemateg – Ysgol Brynhyfryd
“Mae’r myfyrwyr wedi canfod bod trylwyredd ychwanegol y cwrs Mathemateg Pellach wedi bod o fudd i’w hastudiaeth Mathemateg Lefel A yn ogystal â darparu sylfaen ehangach ar gyfer astudio yn y dyfodol.” Darllenwch fwy…

Gareth Chivers – Tiwtor RhGMC a Pennaeth Mathemateg Ysgol – St John Baptist High School
“Rwyf wedi anfon myfyrwyr i’r Dosbarth Meistr Algebra Uwch. Mae hyn yn gwella eu hyder wrth ddatrys problemau a defnyddio eu sgiliau algebraidd. Mae hefyd yn rhoi profiad amhrisiadwy iddynt wrth gwrdd â chyd-fyfyrwyr o ysgolion eraill ar Gampws y Brifysgol.” Darllenwch fwy

Datblygiad Proffesiynol Parhaus

Helen Hayes – Ysgol Uwchradd Bryn Elian
“Cwrs rhagorol, roedd yn ymdrin â maes llafur cyfan FP1 ac rwy’n teimlo’n llawer mwy hyderus nawr gydag esboniadau a rhesymu y tu ôl i ddulliau.” Darllenwch fwy…

Laura Makarek – Ysgol Cil y Coed
“Mae’n rhoi cyfle i chi ddysgu technegau newydd nid yn unig gan y tiwtor ond gan yr athrawon eraill ar y cwrs. Mae wedi rhoi hyder imi gyflwyno FP1.” Darllenwch fwy…

Stuart Ball – Ysgol Gyfun Caerllion
“Mae gen i wybodaeth lawer dyfnach o’r cwrs ac rwy’n teimlo’n hyderus i fynd i’r afael â llawer o bynciau o sawl dull gwahanol.” Darllenwch fwy…

Rhieni

Rhiant Myfyriwr yn Astudio Mathemateg Bellach Safon Uwch – Ysgol Maesydderwen
“Byddai unrhyw blentyn sydd â diddordeb mewn Mathemateg neu bynciau Mathemategol yn elwa’n fawr o gymryd Mathemateg Bellach gan ei fod yn ehangu gwybodaeth ac yn rhoi dechrau da iawn iddynt ar unrhyw astudiaeth bellach.” Darllenwch fwy…

Pontio i Brifysgol

Emlyn Williams – Ysgol Syr Thomas Jones School – Prifysgol Durham
“Heb Fathemateg Bellach, byddwn wedi gorfod treulio llawer mwy o amser yn ystod y flwyddyn gyntaf a’r ail yn ymgynefino â’r fathemateg y deuthum ar ei thraws yn fy ngradd.” Darllenwch fwy…

Jasmine Shao – Ysgol Penglais – Prifysgol Caergrawnt
“Byddwn yn argymell yn fawr ddisgyblion sy’n dymuno mynd ymlaen i astudio pynciau STEM i astudio Mathemateg Bellach.” Darllenwch fwy…

Leah Clarke – Ysgol Tregŵyr – Prifysgol Durham
“Fe wnaeth Mathemateg Bellach fy helpu yn y flwyddyn gyntaf. Mae FP1 gyda’r holl fatricsau wedi bod o gymorth mawr mewn Cyfrifiadureg.” Darllenwch fwy…

Ryan Colclough – Ysgol Uwchradd Fflint – Prifysgol Warwick
“Rwy’n credu bod Mathemateg Bellach wedi fy helpu i gael y lle. Dwi ddim yn credu fy mod wedi cwrdd ag unrhyw un yma sydd heb wneud Mathemateg Bellach Lefel A.” Darllenwch fwy…

Anna Clancy – Ysgol Maesydderwen – Prifysgol Caerdydd
“Byddwn yn bendant yn argymell astudio Mathemateg Bellach i unrhyw un sy’n ystyried gwneud unrhyw radd mewn gwyddoniaeth, ac yn enwedig ei wneud trwy RhGMBC oherwydd eich bod wedyn yn gallu dysgu llawer mwy yn annibynnol, a fydd yn werthfawr i chi yn ystod eich gradd.” Darllenwch fwy…

Cicely Griffiths – Ysgol Tregŵyr – Prifysgol Plymouth
“Nid yn unig y gwnaeth astudio Mathemateg Bellach fy helpu i gael i mewn ond gwnaeth fy mlwyddyn gyntaf gymaint yn haws. Dwi’n cofio meddwl waw, dwi wedi gwneud hyn yn barod!” Darllenwch fwy…

Ben Cooke – Ysgol Uwchradd Dinbych – Prifysgol Durham
“Y fathemateg rydych chi’n ei hastudio mewn Mathemateg Bellach yw’r union beth rydych chi’n ei wneud yn y Brifysgol, rydych chi mor barod. Mae nid yn unig yn eich helpu i gyrraedd y Brifysgol rydych chi ei eisiau ond mae’n gwneud eich blwyddyn gyntaf gymaint yn haws.” Darllenwch fwy…