Rhieni a Chyflogwyr

Mathemateg yw’r unig bwnc Safon Uwch sy’n cynnig dau cymhwyster Safon Uwch – Mathemateg a Mathemateg Bellach. Mae Mathemateg Bellach yn gwrs Safon UG/Uwch a chaiff ei ddylunio i gael ei astudio ar y cyd gyda Mathemateg ym Mlwyddyn 12, ond gallai gael ei gymryd fel UG ym Mlwyddyn 13. Caiff Mathemateg Bellach Safon Uwch ei ffurfio gan 5 modiwl yn cynnwys pynciau pur a chymhwysol.

Mae cymwysterau Mathemateg Bellach yn uchel eu parch a chaiff eu croesawu’n gynnes gan brifysgolion a maent yn datblygu nifer o sgiliau  trosglwyddadwy mae cyflogwyr yn galw amdanynt. Gweler rhagor o wybodaeth ar ein dewislennau-cwympo am beth yw Mathemateg Bellach, ei fuddion, sut caiff ei astudio a chyfleoedd Addysg Uwch a Gyrfaoedd. Gallwch ddarllen ein Llyfryn Rhieni fan hyn.

Mae croeso i rieni ac athrawon i fynychu unrhyw digwyddiad. Isod rhestrir digwyddiadau cyffredinol sy’n cyflwyno Mathemateg Bellach a datrys problemau fyddai o bosib o ddiddordeb. Gweler pob digwyddiad myfyriwr yn cynnwys gweithdai pwnc wedi’i seilio ar y cwricwlwm fan hyn. Am ragor o wybodaeth ac ymholiadau cyffredinol e-bostiwch fmspwales@swansea.ac.uk

Sesiynau Adolygu Mathemateb Bellach a Mathemateg Ychwanegol - BethMae’r RhGMBC yn falch o allu cynnig cyfres o sesiynau adolygu am ddim i fyfyrwyr Mathemateg Bellach Safon Uwch a Mathemateg Ychwanegol. Rydym yn cynnig dosbarthiadau i atgyfnerthu’r wybodaeth bynciol. Byddwn yn cynnal sesiynau byw ar-lein am 2 awr ar foreau Sadwrn gan ddechrau am 10am ac yna 30 munud o amser i ateb cwestiynau.… Read More »Sesiynau Adolygu Mathemateb Bellach a Mathemateg Ychwanegol
Diwrnod π Rhyngwladol - Dathlu Diwrnod π… Mathemategydd Cymreig a fathodd y symbol π. Yn enedigol o Ynys Môn cyflwynodd William Jones 1674-1749 yr arwydd π i ddynodi’r gymhareb rhwng cylchedd cylch a’i ddiamedr. Am fwy o wybodaeth am ein mathemategwyr ewch i: Mathemategwyr Cymraeg Archimedes a π Gwelwch sut y cyfrifodd Archimedes π … chwaraewch gyda’r ap geogebra… Read More »Diwrnod π Rhyngwladol
Diwrnod Rhyngwladol y Menywod! - Diwrnod Rhyngwladol y Menywod!
Datblygu meddylfryd ar gyfer Mathemateg - Beth Mae RhGMBC yn datblygu cyfres o weithdai i gefnogi pob myfyriwr i ddatblygu meddylfryd ar gyfer unrhyw her fathemategol. Yn benodol yn y gyfres hon o weithdai rydym yn awyddus i edrych ar rai o’r rhwystrau sy’n aml yn gysylltiedig â dysgwyr benywaidd. Mae’r gweithdai hyn yn addas i bob myfyriwr. Pwy Mae’r gweithdai… Read More »Datblygu meddylfryd ar gyfer Mathemateg
Nodiadau â Bylchau  - Rydym wedi rhyddhau Nodiadau â Bylchau ar gyfer ein holl Fideos Wyneb i Waered Lefel A Mathemateg a Mathemateg Bellach.  Gellir dod o hyd iddynt yn yr Ardal Adnoddau ar ein gwefan ac mae’nt ar gael i athrawon sydd wedi’ cofrestru gyda RhGMBC yn unig.  Yn gynwysedig mae:  Bwriad nodiadau â blychau yw gwella dealltwriaeth… Read More »Nodiadau â Bylchau 
Sesiwn Blasu Mathemateg Bellach - Pam astudio Maths Bellach Lefel Safon Uwch.
DPMA 2021/2022 - Dechreuwch ddatblygu eich sgiliau datrys problemau