BethCyrsiau Dysgu Proffesiynol – Cofrestrwch nawr ar gyfer 2023/24
PwyAthrawon CA4 a CA5
PrydAr-alw a sesiynau byw ar gael
SutAr-alw Hydref, Gaeaf a Gwanwyn 2023/24
I archebufmspwales@swansea.ac.uk

Rhagor o wybodaeth

Mae’r RhGMBC yn falch o gynnig cwrs dysgu proffesiynol ar gyfer Mathemateg Uwch TGAU mewn fformat Ar Alw.

  1. Mathemateg Uwch TGAU – Ar alw
  2. Mathemateg Lefel A – Ar alw
  3. Mathemateg Ychwanegol – Ar alw
  4. Mathemateg Bellach Unedau 2,3,4,5 a 6 – byw ar lein a byw mewn person (hybrid)
  5. Cwrs technoleg Geogebra ar gyfer Mathemateg TGAU, Mathemateg Lefel A a Mathemateg Bellach Lefel A

Mae’r cyrsiau hyn yn cynnig amrywiaeth o ddulliau cyflwyno i weddu i anghenion gwahanol athrawon ac yn ogystal â’n darpariaeth hybrid arferol y tymor hwn rydym yn cyflwyno ein dull Ar Alw newydd at ddysgu sy’n opsiwn astudio ar-lein hyblyg, sy’n defnyddio amrywiaeth o arddull dysgu.

Er mwyn annog cyfranogiad i’r cwrs, mae rhaglen ardystio yn cael ei chyflwyno: bydd tystysgrifau’n cael eu rhoi i gyfranogwyr sy’n cwblhau’r cwrs ac yn dangos eu dealltwriaeth o’r cysyniadau a’u haddysg trwy raglen o aseiniadau byr ar ddiwedd pob sesiwn.

Er mwyn archebu lle yn un o’r cyrsiau Dysgu Proffesiynol ebostiwch fmspwales@swansea.ac.uk

Am ragor o wybodaeth ar unrhyw un o’r cyrsiau sgroliwch i lawr ein tudalen we a gweld y postiadau cwrs unigol.