Amdanom ni

Amdanom Ni

Mae Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru (RhGMBC) yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r rhaglen wedi’i lleoli yn yr Adran Fathemateg, Prifysgol Abertawe ac mae’n gweithio ar y cyd â phrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Wrecsam Glyndŵr a Phrifysgol De Cymru. Dechreuodd y Rhaglen yn 2010 yn Ne Orllewin Cymru ac mae wedi ehangu’n raddol i weithredu ledled holl siroedd / rhanbarthau Cymru.

Nod RhGMBC yw:

  • codi ymwybyddiaeth ymhlith myfyrwyr a’u rhieni o werth astudio Mathemateg ar lefelau uwch
  • cynyddu nifer y myfyrwyr yng Nghymru sy’n astudio Mathemateg UG / A2 a Mathemateg Bellach
  • darparu hyfforddiant lefel TAG UG / A2 Mathemateg Bellach i fyfyrwyr na allant gael mynediad at Fathemateg Bellach trwy eu hysgolion neu golegau 11-18 lleol
  • cynyddu nifer yr ysgolion a cholegau yng Nghymru sy’n cynnig Mathemateg Bellach
  • cynyddu nifer y myfyrwyr o Gymru sy’n gwneud cais i astudio cyrsiau addysg uwch mewn Mathemateg a phynciau Mathemategol-gyfoethog fel Peirianneg, Ffiseg, TG, Cyllid ac Economeg
  • gwella trosglwyddiad myfyrwyr o gyrsiau addysg bellach i gyrsiau addysg uwch mewn Mathemateg neu gyrsiau sydd ag elfen sylweddol o Fathemateg a thrwy hynny fod o fudd i’r economi ehangach

Tuag at y nodau hyn rydym ni’n:

  • Hyrwyddo Mathemateg Bellach
  • Cynnig Hyfforddiant a chymorth arall i fyfyrwyr
  • Cynhyrchu adnoddau addysgu am ddim i athrawon
  • Darparu deunyddiau a digwyddiadau cyfoethogi
  • Darparu Dysgu Proffesiynol
  • Cynnal Ymchwil a hyrwyddo arfer Arloesol

Gweler Beth mae RhGMBC yn ei wneud i gael rhagor o fanylion am y gweithgareddau hyn.


Ynglŷn â’n Cydlynwyr Ardal

Sofya Lyakhova
E-bost
Arweinydd Rhaglen RhGMBC
Darlithydd cyswllt Mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe ac wedi arwain y rhaglen ers 2010.
Mae ganddi ddoethuriaeth mewn Mathemateg o Brifysgol Bryste a TAR o Brifysgol Fetropolitan Abertawe.
Wedi gweithio mewn diwydiant ac addysg cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe yn 2010.
Alice Lovett
E-bost
Cydlynydd Ardal RhGMBC De Ddwyrain Cymru, Aelod ieuengaf a mwyaf doniol RhGMBC
Cymhwysodd fel athro Mathemateg yn 2006. Dysgu mewn ystod o ysgolion a choleg chweched dosbarth. Pennaeth Mathemateg. Cydlynydd Cyfnod Allweddol 3. Cydlynydd Cyfnod Allweddol 5. Arweinydd Arbenigol mewn Addysg. Ymhlith y diddordebau mae: Desmos a defnydd TGCh mewn mathemateg.
Dominic Oakes
E-bost
Cydlynydd Adnoddau ac Ymchwil RhGMBC,
Cydlynydd Ardal Gogledd Cymru

Cymhwysodd fel athro Mathemateg ym 1992.
Wedi dysgu mewn ystod o ysgolion – canol dinas, maestrefol, gwledig.
Pennaeth Mathemateg.
Cydlynydd Cyflawniad CA3. UDA, Asesu a Chyflawniad. Ymgynghoriaeth: CfEM, Tribal, YDP Gwlad Pwyl, TES, MAT Cynradd. Cynghorydd Mathemateg a Rhifedd MDPh. Diddordebau ymchwil: Cysylltiadau mewn dylunio cwricwlwm Mathemateg, Dull Dosbarth Wyneb i Waered
Francis Hunt
E-bost
Cydlynydd Ardal Canolbarth y De RhGMBC
Wedi gweithio fel peiriannydd meddalwedd cyn dysgu mathemateg a gwneud ymchwil yn Adran Beirianneg Prifysgol Caergrawnt rhwng 1999 a 2006, gan gyfweld â myfyrwyr peirianneg ar gyfer colegau Newnham a Wolfson.
Wedi gweithio fel darlithydd mathemateg ym Mhrifysgol De Cymru rhwng 2006 a 2019, cyn ymuno â’r RhGMBC yn 2020.
Wedi rhoi Dosbarthiadau Meistr Mathemateg y Sefydliad Brenhinol ar lefel CA3 a Chynradd, wedi’u tiwtora ar lefel TGAU ac A, ac yn mentora ar gyfer yr UKMT.
Yn siarad Cymraeg, ond bob amser yn awyddus i wella!
Stephen Earles 
E-bost
Pennaeth Dysgu RhGMBC
Cydlynydd Ardal Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Cymhwysodd fel athro Mathemateg ym 1985.
Dysgu mewn ysgolion ledled Gorllewin Cymru, Pennaeth Mathemateg.
Yn gyfrifol am gyflwyno Mathemateg Bellach yn yr ysgol a chysylltiadau â Phrifysgol Rhydychen i ddatblygu rhaglen ar gyfer cyflawnwyr uchel.

Cysylltwch â swyddfa benodol

Swyddfa Abertawe
Prifysgol Abertawe
Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru
Ystafell 103
Y Ffowndri Cyfrifiadurol
Prifysgol Abertawe
Campws y Bae
Abertawe, SA1 8EN
01792 606845
fmspwales@swansea.ac.uk
Claire MusselwhiteSwyddog Prosiect RhGMBC
01792 606845
c.e.musselwhite@swansea.ac.uk
Sofya LyakhovaCydlynydd Ardal
Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe
Arweinydd Rhaglen RhGMBC
01792 602793
s.lyakhova@swansea.ac.uk
Swyddfa Caerdydd
Prifysgol Caerdydd
Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru
Ystafell 1.09
Abacws
Prifysgol Caerdydd
Ffordd Senghennydd
Caerdydd CF24 4AG
02922 514591
Bethanie DenyerCymorth Gweinyddol Rhanbarthol
02922 514591 / 01792 606845
b.h.denyer@swansea.ac.uk
Alice LovettCydlynydd Ardal De Ddwyrain
alice.lovett@swansea.ac.uk
Francis HuntCydlynydd Ardal Canolbarth y De
f.h.hunt@swansea.ac.uk
Swyddfa Bangor
Prifysgol Bangor
Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru
Ystafell 114
Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig
Prifysgol Bangor
Stryd y Deon
Bangor LL57 1UT
01248 382279
Dominic OakesCydlynydd Ardal
D.R.G.Oakes@Swansea.ac.uk
Elen Wyn ClodeCymorth Gweinyddol Rhanbarthol
e.w.clode@bangor.ac.uk
Swyddfa Aberystwyth
Prifysgol Aberystwyth
Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru
Ystafell 4.03
Adeilad y Gwyddorau Ffisegol
Prifysgol Aberystwyth
Aberystwyth
Ceredigion SY23 3BZ
01970 622 763 or 01970 622458
Stephen Earles Cydlynydd Ardal
Ceredigion a Powys

s.n.f.earles@swansea.ac.uk
Cydlynydd Ardal
Ceredigion a Powys

Hayley OwenCymorth Gweinyddol Rhanbarthol a phob ymholiad Hyfforddiant 
hao9@aber.ac.uk

Neu anfon neges atom