Cynhadledd ACAM 2022

BethArloesi a Chreadigedd mewn Addysgu Mathemateg
Pam Athrawon Mathemateg
Pryd 8 Gorffennaf 2022 08:30-13:10
I archebuCliciwch Yma
SutArlein

Mwy o wybodaeth

Mae’n bleser gan Raglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru gyhoeddi ein trydedd gynhadledd ar gyfer athrawon Mathemateg o ysgolion a cholegau yng Nghymru.

Prif Sesiynau:

Ben Sparks Creu Rhif

Mae’n debyg eich bod wedi clywed am Ben Sparks. Yn athro mathemateg ers 10 mlynedd, mae bellach yn rhoi sgyrsiau a gweithdai mathemateg ledled y byd, i fyfyrwyr, athrawon, a’r cyhoedd. Mae hefyd yn gwneud fideos ar gyfer y sianel YouTube wych Numberphile.

Colin Wright – Stribed Mobius Ymarferol

Mae gan Colin rif Erdos o 2, mae’n chwarae’r Game Of Go (yn wael), piano (gwaeth) a gall jyglo a beicio un olwyn. Mae hefyd ganddo ddoethuriaeth o Gaergrawnt mewn Cyfuniadeg a Theori Graff ac yn un o nifer o fathemategwyr a ddatblygodd nodiant ar gyfer mathemateg jyglo. Mae Colin yn adnabyddus yn y gymuned cyfathrebu mathemateg gan roi llawer o sgyrsiau mathemateg mewn ysgolion ledled y wlad.

Mae’r sesiynau yn cynnwys:

  • Stribed Mobius ymarferol
  • Tarddiad Termau Mathemategol
  • Datrys problemau geometreg
  • Dealltwriaeth ddyfnach o Dechnoleg Graffio
  • Clybiau Mathemateg

Rydym yn cynnwys amser ar gyfer rhwydweithio, cyfnewid syniadau a hwyl. Rydym am gadw o leiaf flas ar y cyfnewid cymdeithasol ac anffurfiol o syniadau sy’n nodweddu cynhadledd dda ac felly byddwn yn defnyddio llwyfan sy’n caniatáu cymysgu a sgwrsio rhwng sesiynau a chaniatáu peth amser ar gyfer hynny.

AM DDIM i athrawon o ysgolion gwladol Cymru.