Gofynnir i athrawon weithiau “Ond ble fyddwn i byth yn defnyddio’r fathemateg yma?” I ateb hynny, mae RhGM Cymru wedi comisiynu cyfres gyffrous o chwe fideo byr gan gyfathrebwyr mathemateg. Mae’r rhain yn dangos sut y gall mathemateg TGAU eich helpu i ymchwilio i broblemau sydd heb eu datrys, ennill mewn gemau fideo, gwneud y cynnyrch gorau, rhannu cyfrinachau, dod o hyd i bellter y gorwel, a’ch dysgu am y Loteri Genedlaethol. Diolch yn fawr i Zoe Griffiths, James Grime, Ben Sparks a Katie Steckles.