Cyfoethogi


Mae RhGMBC yn cefnogi cyfoethogi profiad myfyrwyr o fathemateg trwy drefnu digwyddiadau a darparu adnoddau ysgogol. Mae’r fformatau a ddefnyddir i ddarparu cyfleoedd cyfoethogi yn cynnwys:

  • Gweithdai a Sesiynau Ymarferol
  • Cwisiau a Chystadlaethau
  • Cyflwyniadau a darlithoedd
  • Sesiynau blasu Mathemateg Safon Uwch, Mathemateg Bellach a Mathemateg Prifysgol
  • Cynadleddau Myfyrwyr

Adnoddau 11 – 16

Mae llawer o adnoddau mathemateg 11-16 wedi’u casglu at ei gilydd yn Integral a’u ‘sgorio’ yn ôl pa mor anodd ydynt fel y gallwch ddewis gweithgareddau sy’n briodol i’ch gwybodaeth a’ch diddordebau. Mae’r adnoddau hyn yn ymdrin â phynciau penodol a sgiliau mwy cyffredinol fel datrys problemau a modelu. Mae rhai gweithgareddau wedi’u cynllunio ar gyfer gwaith annibynnol neu unigol tra bod rhai yn fwy addas ar gyfer gwaith grŵp. Gallwch glicio ar y botwm hwn i fewngofnodi i Integral fel gwestai a gweld beth sydd ar gael.


Ffynonellau Deunyddiau Eraill

Mae’r gwefannau canlynol yn cynnwys deunyddiau rhagorol ar gyfer cyflwyno a datblygu sgiliau datrys problemau mathemategol:


Datrys Problemau Blwyddyn 12 a 13 gan gynnwys paratoi at STEP, AEA a MAT

Mae RhGMBC yn cynnal cyrsiau ledled Cymru i gefnogi myfyrwyr sydd angen sefyll arholiadau datrys problemau. I weld cefnogaeth ar gyfer profion derbyn prifysgol, gweler y dudalen Digwyddiadau Myfyrwyr.


Digwyddiadau Cyfoethogi

Bob blwyddyn mae’r RhGMBC yn trefnu digwyddiadau cyfoethogi y mae myfyrwyr Cyfnod Allweddol 4 a 5 yn eu mynychu, mae’r rhain yn aml mewn prifysgolion lleol ond gallant hefyd gael eu cynnal mewn ysgolion a cholegau neu ar-lein. Mae’r digwyddiadau’n darparu blas ar fathemateg y tu hwnt i TGAU ac yn ysgogi diddordeb myfyrwyr mewn mathemateg. Yn ogystal, mae Cydlynwyr Ardal RhGMBC yn ymweld ac yn trefnu digwyddiadau mewn ysgolion a cholegau i hyrwyddo mathemateg, gan gynnwys profiadau cyfoethogi a rhagbrofion Her Mathemateg Uwch RhGMBC.

Anfonir manylion digwyddiadau i ysgolion / colegau sydd wedi’u cofrestru gyda’r RhGMBC neu edrychwch ar y dudalen Digwyddiadau Myfyrwyr am ddyddiadau digwyddiadau sydd ar y gweill.


Byd Mathemategol

Croeso i’r rhaglen Bydoedd Mathemategol a baratowyd ar eich cyfer gan fathemategwyr o bob cwr o’r byd. Nod rhaglen Bydoedd Mathemategol yw eich cyflwyno i ochr fwy archwiliadol mathemateg sy’n cynnwys meddwl yn araf ac edrych ar broblemau o onglau amrywiol fel y mae mathemategwyr a gwyddonwyr yn ei wneud.  Hanfod ein gweledigaeth yw datrys problemau a chysylltu mathemateg â phynciau eraill o wyddoniaeth a thechnoleg i gelf a chwaraeon.