Cwrs Dysgu Proffesiynol Mathemateg Safon Uwch AR ALW

BethCwrs Dysgu Proffesiynol Mathemateg Lefel A
PwyAthrawon CA5
PrydAr alw
SutAr alw
I archebufmspwales@swansea.ac.uk

Mwy o wybodeath

Mae’n bleser gan RGMBC gynnig cyrsiau dysgu proffesiynol ar gyfer pob un o’r modiwlau Mathemateg Safon Uwch mewn fformat Ar Alw.

  • Uned 1 (Pur)
  • Uned 2 (Cymhwysol)
    • Ystadegaeth
    • Mecaneg
  • Uned 3 (Pur)
  • Uned 4 (Cymhwysol)
    • Ystadegaeth
    • Mecaneg

(Bydd Uned 2 ac Uned 4 yn cael eu rhannu’n ddau faes pwnc ac yn cael eu hystyried fel cyrsiau ar wahân)

Mae’r dull Ar Alw newydd hwn yn opsiwn astudio ar-lein hyblyg, sy’n defnyddio amrywiaeth o ffyrdd dysgu megis fideos darlithoedd dan arweiniad tiwtor, ac adnoddau pecyn gwaith i adeiladu eich sgiliau a chadarnhau eich dealltwriaeth.

Mae Ar Alw yn rhoi’r hyblygrwydd i chi astudio pryd a ble y dymunwch; amser cinio, gwersi rhydd neu gartref ac ar eich cyflymder eich hun. Nid oes dyddiad dechrau na dyddiad gorffen – mae hynny yn eich dwylo chi a gallwch astudio yn y modd hwn dros fwy nag un flwyddyn academaidd.

Byddwch yn cael eich cofrestru ar sianel Microsoft Teams sy’n cael ei fonitro lle bydd cyfarwyddiadau llawn yn eich arwain trwy’r cwrs ar eich cyflymder eich hun.

Mae cyfle yn sianel Teams i gydweithio ag eraill sy’n gwneud y cwrs a fforwm lle gallwch drafod materion ac addysgeg y pynciau.

Er mwyn annog cyfranogiad gweithredol yn y cwrs, mae rhaglen ardystio yn cael ei chyflwyno: bydd tystysgrifau’n cael eu rhoi i gyfranogwyr sy’n cwblhau’r cwrs ac yn dangos eu dealltwriaeth o’r cysyniadau a’u haddysgu trwy raglen o aseiniadau byr ar ddiwedd pob sesiwn. Eglurir hyn yn y sianel Teams.

Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r cwrs a’i fod yn ategu ac yn cyfrannu at eich rhaglen datblygiad proffesiynol personol.

I ymuno â’n cyrsiau Ar Alw, e-bostiwch fmspwales@swansea.ac.uk gyda’r modiwlau yr hoffech eu hastudio.