Cwrs Dysgu Proffesiynol TGAU Mathemateg Uwch Ar Alw

BethCwrs Dysgu Proffesiynol Mathemateg Haen Uwch
PwyAthrawon CA4
PrydAr alw
SutAr alw
I archebufmspwales@swansea.ac.uk

Rhagor o wybodaeth

Mae’r RhGMBC yn falch o gynnig cyrsiau dysgu proffesiynol ar gyfer Mathemateg Uwch TGAU mewn fformat Ar Alw.

  1. Rhif
  2. Algebra
  3. Geometreg (Siap a Gofod)
  4. Ystadegaeth

Mae’r dull Ar Alw newydd hwn yn opsiwn astudio ar-lein hyblyg, sy’n defnyddio amrywiaeth o ddulliau dysgu fel fideos darlithoedd dan arweiniad tiwtor ac adnoddau pecyn gwaith i adeiladu eich sgiliau a chryfhau eich dealltwriaeth.

Mae Ar Alw yn rhoi’r hyblygrwydd i chi astudio pryd a ble y dymunwch; amser cinio, gwersi rhydd neu gartref ac ar eich cyflymder eich hun. Nid oes dyddiad dechrau na dyddiad gorffen – mae hynny yn eich dwylo chi a gallwch astudio yn y modd hwn dros fwy nag un flwyddyn academaidd.

Byddwch yn cael eich cofrestru ar sianel Microsoft Teams sy’n cael ei monitro lle bydd cyfarwyddiadau llenwi yn eich arwain trwy’r cwrs ar eich cyflymder eich hun.

Mae cyfle yn sianel Teams i gydweithio ag eraill sy’n gwneud y cwrs a fforwm lle gallwch drafod materion ac addysgeg y pynciau.

Er mwyn annog cyfranogiad gweithredol yn y cwrs, mae rhaglen ardystio yn cael ei chyflwyno: bydd tystysgrifau’n cael eu rhoi i gyfranogwyr sy’n cwblhau’r cwrs ac yn dangos eu dealltwriaeth o’r cysyniadau a’u haddysgu trwy raglen o aseiniadau byr ar ddiwedd pob sesiwn. Eglurir hyn yn y sianel Teams.

Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r cwrs a’i fod yn ategu ac yn cyfrannu at eich rhaglen datblygiad personol.

I ymuno â’n cwrs Ar Alw, e-bostiwch fmspwales@swansea.ac.uk