Mynd i'r cynnwys

Mathemateg Bellach 5 – Cwrs Dysgu Proffesiynol Ar Alw

BethMathemateg Bellach 5 – Cwrs Dysgu Proffesiynol (Ystadegaeth Bellach)
PwyAthrawon CA5
PrydAr Alw
SutAr Alw
I archeburhgmc-mspw@swansea.ac.uk

Mwy o wybodeaeth

Bydd y cwrs Ar Alw hwn yn rhoi sylw cynhwysfawr i MBU5 ac mae wedi’i anelu at athrawon sy’n cyflwyno Mathemateg Safon Uwch ar hyn o bryd ac a hoffai gyflwyno Mathemateg Bellach, neu athrawon sy’n addysgu Mathemateg Bellach ar hyn o bryd ac a hoffai gael sesiwn gloywi.

Bydd y pynciau a drafodir yn y cwrs hwn yn cynnwys:


Cyfuno Dosraniadau Normal a Theorem y Derfan Ganolog 


Cyfuniad llinol o hapnewidynnau annibynnol sydd wedi’u dosrannu’n normal.  
Dosraniad cymedr hapsampl.  
Defnydd o’r Theorem y Derfan Ganolog. 

Amcangyfrifynnau

Defnydd o amcangyfrifynnau di-duedd a’r maen prawf amrywiant ar gyfer dewis rhwng amcangyfrifynnau di-duedd.  
Amcangyfrifynnau di-duedd o debygolrwydd ac o gymedr poblogaeth a’u cyfeiliornadau safonol.  
Amcangyfrifyn di-duedd o amrywiant poblogaeth.

Profi rhagdybiaethau Hypothesis testing (paramedrig ac amharamedrig) 
Profion rhagdybiaeth ar gyfer:  
 
(a) cymedr penodol o unrhyw ddosraniad y mae ei amrywiant yn cael ei amcangyfrif o sampl fawr.
(b) y gwahaniaeth rhwng dau gymedr ar gyfer dau ddosraniad normal annibynnol gydag amrywiannau hysbys.
(c) cymedr penodedig o ddosraniad normall gydag amrywiant anhysbys.
 
Profion amharamedrig: profion Mann-Whitney ac arwyddion graddedig. 
Dehongli canlyniadau ar gyfer yr holl brofion hyn mewn cyd-destun.

Cyfyngau Hyder

Defnyddio cyfyngau hyder ar gyfer: 
 
(a) cymedr dosraniad normal gydag (i) amrywiant hysbys ac (ii) amrywiant anhysbys,  
(b) y gwahaniaeth rhwng cymedrau dau ddosraniad normal y mae ei hamrywiannau’n hysbys. Cyfyngau hyder bras, o ystyried samplau mawr, ar gyfer tebygolrwydd neu gyfran. 
Dehongli canlyniadau mewn cyd-destunau ymarferol.

Mae’r dull Ar Alw newydd hwn yn opsiwn astudio ar-lein hyblyg, sy’n defnyddio amrywiaeth o ddulliau dysgu fel fideos darlithoedd dan arweiniad tiwtor ac adnoddau pecyn gwaith i adeiladu eich sgiliau a chryfhau eich dealltwriaeth.

Mae Ar Alw yn rhoi’r hyblygrwydd i chi astudio pryd a ble y dymunwch; amser cinio, gwersi rhydd neu gartref ac ar eich cyflymder eich hun. Nid oes dyddiad dechrau na dyddiad gorffen – mae hynny yn eich dwylo chi a gallwch astudio yn y modd hwn dros fwy nag un flwyddyn academaidd.

Byddwch yn cael eich cofrestru ar sianel Microsoft Teams sy’n cael ei monitro lle bydd cyfarwyddiadau llenwi yn eich arwain trwy’r cwrs ar eich cyflymder eich hun.
Mae cyfle yn sianel Teams i gydweithio ag eraill sy’n gwneud y cwrs a fforwm lle gallwch drafod materion ac addysgeg y pynciau.

Er mwyn annog cyfranogiad gweithredol yn y cwrs, mae rhaglen ardystio yn cael ei chyflwyno: bydd tystysgrifau’n cael eu rhoi i gyfranogwyr sy’n cwblhau’r cwrs ac yn dangos eu dealltwriaeth o’r cysyniadau a’u haddysgu trwy raglen o aseiniadau byr ar ddiwedd pob sesiwn. Eglurir hyn yn y sianel Teams.

Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r cwrs a’i fod yn ategu ac yn cyfrannu at eich rhaglen datblygiad personol.
I ymuno â’n cwrs Ar Alw, e-bostiwch rhgmc-mspw@swansea.ac.uk