Mathemateg Bellach 6 – Cwrs Dysgu Proffesiynol

BethMathemateg Bellach 6 – Cwrs Dysgu Proffesiynol (Mecaneg Bellach)
PwyAthrawon CA5
PrydMedi 2023 i Gorffennaf 2024
SutHybrid- Ar-lein yn bennaf, gyda sesiynau byw yn cael eu cynnal i ymdrin â’r pynciau mwy cymhleth yn Ne a Gogledd Cymru
I archebufmspwales@swansea.ac.uk

Mwy o wybodeath

Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylw cynhwysfawr i MBU6 ac mae wedi’i anelu at athrawon sydd ar hyn o bryd yn cyflwyno Mathemateg Bellach lefel UG ac a hoffai gyflwyno Mathemateg Bellach Safon Uwch, neu athrawon sy’n addysgu MBU6 ar hyn o bryd ac a hoffai gael sesiwn gloywi.

Strwythur y Cwrs: 5 Sesiwn. Bydd y cwrs hwn yn cael ei wasgaru dros y flwyddyn academaidd gyfan

Sesiwn 1
Ergyd a Momentwm


Medi-Hyd 2023
Ergyd a momentwm fel fectorau. 
Cyfernod adfer
Ardrawiadau ar letraws sfferau llyfn o faint hafal
Tensiynau ergydiol
Sesiwn 2
Momentau a Chreiddiau Màs

Tach 2023
Momentau. 
Craidd màs system o ronynnau
Creiddiau màs laminâu syml
Sesiwn 3
Stateg

Ion – Chwe 2024
Creiddiau màs laminâu a solidau gan ddefnyddio integru
Stateg Bellach
Sesiwn 4
Hafaliadau Differol ym Mecaneg

Maw-Ebr 2024
Defnyddio hafaliadau differol ym Mecaneg 
Cyflwyno Mudiant Harmonig Syml
Cinemateg Mudiant Harmonig Syml 
Sesiwn 5
Osgiliadau

Meh – Gor 2024
Enghreifftiau o Fudiant Harmonig Syml
Osgiliadau Anghyflawn
Osgiliadau Gwanychol
Osgiliadau Gorfod

Bydd pob modiwl yn cynnwys dwy sesiwn Zoom ar-lein, yn ystod yr wythnos, yn gynnar gyda’r nos, wedi’u gwahanu gan 7-14 diwrnod. Yn y sesiynau hyn, bydd y tiwtor yn ystyried prif gysyniadau’r testun. Bydd recordiadau fideo o’r sesiynau hyn ar gael fel y gall cyfranogwyr nad ydynt yn gallu bod yn bresennol weld y sesiwn a gollwyd.

Bydd sesiynau 1 a 5 yn cynnwys y posibilrwydd o fynychu sesiwn wyneb yn wyneb gyda thiwtor. Cynhelir y sesiynau hyn yn ystod yr wythnos ac yn Ne Cymru (Abertawe) a Gogledd Cymru (Wrecsam neu Fangor). Bydd y sesiynau hyn yn digwydd cyn y ddwy sesiwn Zoom. Byddant nid yn unig yn ymdrin â deunyddiau’r ddwy sesiwn ar-lein, ond byddant hefyd yn rhoi’r cyfle i chi gwrdd ag aelod o’r tîm tiwtor a chyfnewid syniadau a phrofiadau gyda rhai o’ch cyd-gyfranogwyr.

Bydd pecyn adnoddau llawn o ddeunyddiau dysgu, gan gynnwys y deunyddiau a ddefnyddiwyd yn y sesiynau Zoom ac wyneb yn wyneb, ar gael a’r gobaith yw y byddwch yn gweithio drwy’r adnoddau ac yn rhoi cynnig ar rai o’r ymarferion a ddarperir. Yn ystod y cyfnod hwn o hunan-astudio bydd gennych fynediad e-bost at eich tiwtor.

Disgwylir i gyfranogwyr fynychu cymaint o sesiynau ar-lein â phosibl..

Dyddiadau Cyrsiau:

Cynhelir sesiwn wyneb yn wyneb neu ar-lein ym mhob un o’r wythnosau a nodir. Bydd dyddiadau’n cael eu pennu cyn gynted â phosibl.

Wyneb yn wynebAr-lein
Sesiwn 1Tymor yr Hydref Wythnos 3Tymor yr Hydref Wythnos 5
Tymor yr Hydref Wythnos 7
Sesiwn 2Tymor yr Hydref Wythnos 9
Tymor yr Hydref Wythnos 10
Sesiwn 3Tymor y Gwanwyn Wythnos 3
Tymor y Gwanwyn Wythnos 5
Sesiwn 4Tymor y Gwanwyn Wythnos 7
Tymor y Gwanwyn Wythnos 8
Sesiwn 5Tymor yr Haf Wythnos 7Tymor yr Haf Wythnos 8
Tymor yr Haf Wythnos 10

Cyflwynir y sesiynau yn Saesneg; bydd deunyddiau ar gael yn ddwyieithog

Bydd y cwrs hwn yn cael ei ardystio.

Mae gan bob sesiwn dasg asesu fer a bydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i’w chwblhau a’i hanfon at eu tiwtor. Bydd pob tasg yn cynnwys dau neu dri chwestiwn arddull arholiad i gyfranogwyr eu hateb. Hefyd, gofynnir i gyfranogwyr feddwl am y wybodaeth y bydd ei hangen ar fyfyrwyr i fynd i’r afael â chwestiynau o’r fath a dulliau addysgu posibl y gellid eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Y gobaith yw y bydd angen llai na 90 munud i gwblhau pob tasg.

Bydd ardystiad yn seiliedig ar gwblhau’r tasgau hyn yn foddhaol a thystiolaeth o bresenoldeb yn y sesiwn neu waith annibynnol trwy’r deunydd adnoddau.

Y dyddiad cau ar gyfer ardystio fydd Awst 2024