BethMathemateg Bellach 2 – Cwrs Dysgu Proffesiynol (Ystadegaeth Bellach)
PwyAthrawon CA5
PrydMedi 2024 i Ebrill 2025
SutHybrid- Ar-lein yn bennaf, gyda sesiynau byw yn cael eu cynnal i ymdrin â’r pynciau mwy cymhleth yn Ne a Gogledd Cymru
I archebufmspwales@swansea.ac.uk

More information

Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylw cynhwysfawr i MBU2 ac mae wedi’i anelu at athrawon sy’n cyflwyno Mathemateg Safon Uwch ar hyn o bryd ac a hoffai gyflwyno Mathemateg Bellach, neu athrawon sy’n addysgu Mathemateg Bellach ar hyn o bryd ac a hoffai gael sesiwn gloywi.

Strwythur y Cwrs: 4 Sesiwn. Bydd y cwrs hwn yn cael ei wasgaru dros y flwyddyn academaidd gyfan.

Sesiwn 1
Hapnewidynnau arwahanol


Medi-Hyd 2024
Dosraniadau tebygolrwydd arwahanol:

Darganfod cymedr ac amrywiant dosraniadau tebygolrwydd arwahanol syml ac algebra disgwyliad gyda dosraniadau tebygolrwydd arwahanol (a hapnewidynnau di-dor).
Sesiwn 2
Hapnewidynnau Di-dor

Tach-Rhag 2024
Dosraniadau tebygolrwydd di-dor:
 
 gan gynnwys dwysedd tebygolrwydd a ffwythiannau dosraniad cronnus a defnyddio canolrif, chwartelau a chanraddau, cymedr, amrywiant a gwyriad safonol a gwerth disgwyliedig. 
Y dosraniad Poisson.  
Poisson fel brasamcan i’r dosraniad binomial. 
Y dosraniad esbonyddol fel model ar gyfer cyfyngau rhwng digwyddiadau.
Sesiwn 3
Cydberthynaiad ac atchweliad

Ion – Chwe 2025
Cydberthyniad ac atchweliad llinol: 
 
Cyfernod cydberthyniad trefn restrol Spearman.
Cyfernod cydberthyniad moment-lluoswm Pearson.     
Llinell atchwel sgwariau lleiaf.
Sesiwn 4
Y prawf Chi-sgwâr

Maw-Ebr 2025
Y dosraniad Chi-sgwâr:

Cynnal prawf llwyddiant y ffit, gan ddefnyddio χ2 fel ystadegyn bras.
Defnydd o’r prawf χ2  i brofi ar gyfer cyswllt mewn tabl newidynnau a dehongli’r canlyniadau.

Bydd pob modiwl yn cynnwys dwy sesiwn Zoom ar-lein, yn ystod yr wythnos, yn gynnar gyda’r nos, wedi’u gwahanu gan 7-14 diwrnod. Yn y sesiynau hyn, bydd y tiwtor yn ystyried prif gysyniadau’r testun. Bydd recordiadau fideo o’r sesiynau hyn ar gael fel y gall cyfranogwyr nad ydynt yn gallu bod yn bresennol weld y sesiwn a gollwyd.

Bydd sesiynau 2 a 3 yn cynnwys y posibilrwydd o fynychu sesiwn wyneb yn wyneb gyda thiwtor. Cynhelir y sesiynau hyn yn ystod yr wythnos ac yn Ne Cymru (Abertawe) a Gogledd Cymru (Wrecsam neu Fangor). Bydd y sesiynau hyn yn digwydd cyn y ddwy sesiwn Zoom. Byddant nid yn unig yn ymdrin â deunyddiau’r ddwy sesiwn ar-lein, ond byddant hefyd yn rhoi’r cyfle i chi gwrdd ag aelod o’r tîm tiwtor a chyfnewid syniadau a phrofiadau gyda rhai o’ch cyd-gyfranogwyr.

Bydd pecyn adnoddau llawn o ddeunyddiau dysgu, gan gynnwys y deunyddiau a ddefnyddiwyd yn y sesiynau Zoom ac wyneb yn wyneb, ar gael a’r gobaith yw y byddwch yn gweithio drwy’r adnoddau ac yn rhoi cynnig ar rai o’r ymarferion a ddarperir. Yn ystod y cyfnod hwn o hunan-astudio bydd gennych fynediad e-bost at eich tiwtor.

Disgwylir i gyfranogwyr fynychu cymaint o sesiynau ar-lein â phosibl.session

Dyddiadau Cyrsiau:

Cynhelir sesiwn wyneb yn wyneb neu ar-lein ym mhob un o’r wythnosau a nodir. Bydd dyddiadau’n cael eu pennu cyn gynted â phosibl.

Wyneb yn wynebAr-lein
Sesiwn 1Tymor yr Hydref Wythnos 4
Tymor yr Hydref Wythnos 6
Sesiwn 2Tymor yr Hydref Wythnos 8Tymor yr Hydref Wythnos 9
Tymor yr Hydref Wythnos 10
Sesiwn 3Tymor y Gwanwyn Wythnos 2Tymor y Gwanwyn Wythnos 3
Tymor y Gwanwyn Wythnos 6
Sesiwn 4Tymor y Gwanwyn Wythnos 9
Tymor y Gwanwyn Wythnos 10

Cyflwynir y sesiynau yn Saesneg; bydd deunyddiau ar gael yn ddwyieithog

Bydd y cwrs hwn yn cael ei ardystio.

Mae gan bob sesiwn dasg asesu fer a bydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i’w chwblhau a’i hanfon at eu tiwtor. Bydd pob tasg yn cynnwys dau neu dri chwestiwn arddull arholiad i gyfranogwyr eu hateb. Hefyd, gofynnir i gyfranogwyr feddwl am y wybodaeth y bydd ei hangen ar fyfyrwyr i fynd i’r afael â chwestiynau o’r fath a dulliau addysgu posibl y gellid eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Y gobaith yw y bydd angen llai na 90 munud i gwblhau pob tasg.

Bydd ardystiad yn seiliedig ar gwblhau’r tasgau hyn yn foddhaol a thystiolaeth o bresenoldeb yn y sesiwn neu waith annibynnol trwy’r deunydd adnoddau.

Y dyddiad cau ar gyfer ardystio fydd Awst 2025.