Beth | Mathemateg Bellach 1 – Cwrs Dysgu Proffesiynol (Pur Bellach) |
Pwy | Athrawon CA5 |
Pryd | Medi 2023 i Gorffennaf 2024 |
Sut | Hybrid- Ar-lein yn bennaf, gyda sesiynau byw yn cael eu cynnal i ymdrin â’r pynciau mwy cymhleth yn Ne a Gogledd Cymru |
I archebu | fmspwales@swansea.ac.uk |
Mwy o wybodeaeth
Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylw cynhwysfawr i MBU1 ac mae wedi’i anelu at athrawon sy’n cyflwyno Mathemateg Safon Uwch ar hyn o bryd ac a hoffai gyflwyno Mathemateg Bellach, neu athrawon sy’n addysgu Mathemateg Bellach ar hyn o bryd ac a hoffai gael sesiwn gloywi.
Strwythur y Cwrs: 5 Sesiwn. Bydd y cwrs hwn yn cael ei wasgaru dros y flwyddyn academaidd gyfan.
Sesiwn 1 Rhifau Cymhlyg Medi-Hyd 2023 | Datblygu rhifau cymhlyg, rhifyddeg ac algebra rhifau cymhlyg. Y diagram Argand. Cysylltiad rhwng trawsffurfiadau’r gofod 2D a rhifyddeg rhifau cymhlyg. Modwlws ac arg a’u priodweddau. Prawf rhifau cymhlyg o’r fformiwlâu ongl gyfansawdd. Loci yn y diagram Argand. Ffwythiannau newidyn cymhlyg. |
Sesiwn 2 Polynomialau a Matricsau Tach-Rhag 2023 | Gwreiddiau Polynomialau Gwerthfawrogiad anffurfiol o theorem sylfaenol algebra Mae gwreiddiau cymhlyg polynomial real yn ymddangos mewn parau cyfieuol. Priodweddau gwreiddiau polynomialau. Cyflwyniad i rifyddeg ac algebra matricsau (yn enwedig 2×2) a’r defnydd o fatricsau 2×2 i ddisgrifio trawsffurfiadau. |
Sesiwn 3 Matricsau a Thrawsffurfiadau Iau – Chwe 2024 | Ffurfioli gwaith cynharach ar fatricsau 2×2 a’u defnydd gyda thrawsffurfiadau llinol o ofod dau ddimensiwn. Defnyddio matricsau 3×3 i ddisgrifio trawsffurfiadau aflinol o ofod dau ddimensiwn. Defnyddio matricsau 3×3 i ddisgrifio trawsffurfiadau llinol gofod tri dimensiwn. |
Sesiwn 4 Factorau Maw-Ebr 2024 | Hafaliad fector llinell Y lluoswm scalar Hafaliad fector plân Defnyddio fectorau i gyfrifo pellteroedd ac onglau mewn gofod tri dimensiwn. |
Sesiwn 5 Prawf a Chyfresi Mai-Meh 2024 | Cyflwyno prawf drwy anwythiad Defnyddio prawf drwy anwythiad mewn ystod eang o enghreifftiau Swm n term cyntaf cyfres gan ddefnyddio anwythiad, priodweddau nodiant Σ a’r dull gwahaniaeth. |
Bydd pob modiwl yn cynnwys dwy sesiwn Zoom ar-lein, yn ystod yr wythnos, yn gynnar gyda’r nos, wedi’u gwahanu gan 7-14 diwrnod. Yn y sesiynau hyn, bydd y tiwtor yn ystyried prif gysyniadau’r testun. Bydd recordiadau fideo o’r sesiynau hyn ar gael fel y gall cyfranogwyr nad ydynt yn gallu bod yn bresennol weld y sesiwn a gollwyd.
Bydd sesiynau 1 a 4 yn cynnwys y posibilrwydd o fynychu sesiwn wyneb yn wyneb gyda thiwtor. Cynhelir y sesiynau hyn yn ystod yr wythnos ac yn Ne Cymru (Abertawe) a Gogledd Cymru (Wrecsam neu Fangor). Bydd y sesiynau hyn yn digwydd cyn y ddwy sesiwn Zoom. Byddant nid yn unig yn ymdrin â deunyddiau’r ddwy sesiwn ar-lein, ond byddant hefyd yn rhoi’r cyfle i chi gwrdd ag aelod o’r tîm tiwtor a chyfnewid syniadau a phrofiadau gyda rhai o’ch cyd-gyfranogwyr.
Bydd pecyn adnoddau llawn o ddeunyddiau dysgu, gan gynnwys y deunyddiau a ddefnyddiwyd yn y sesiynau Zoom ac wyneb yn wyneb, ar gael a’r gobaith yw y byddwch yn gweithio drwy’r adnoddau ac yn rhoi cynnig ar rai o’r ymarferion a ddarperir. Yn ystod y cyfnod hwn o hunan-astudio bydd gennych fynediad e-bost at eich tiwtor.
Disgwylir i gyfranogwyr fynychu cymaint o sesiynau ar-lein â phosibl.
Dyddiadau Cyrsiau:
Cynhelir sesiwn wyneb yn wyneb neu ar-lein ym mhob un o’r wythnosau a nodir. Bydd dyddiadau’n cael eu pennu cyn gynted â phosibl.
Wyneb yn wyneb | Ar-lein | ||
Sesiwn 1 | Tymor yr Hydref Wythnos 3 | Tymor yr Hydref Wythnos 4 Tymor yr Hydref Wythnos 6 | |
Sesiwn 2 | Tymor yr Hydref Wythnos 10 Tymor yr Hydref Wythnos 12 | ||
Sesiwn 3 | Tymor y Gwanwyn Wythnos 4 Tymor y Gwanwyn Wythnos 6 | ||
Sesiwn 4 | Tymor y Gwanwyn Wythnos 8 | Tymor y Gwanwyn Wythnos 9 Tymor y Gwanwyn Wythnos 10 | |
Sesiwn 5 | Tymor y Haf Wythnos 7 Tymor y Haf Wythnos 8 |
Cyflwynir y sesiynau yn Saesneg; bydd deunyddiau ar gael yn ddwyieithog.
Bydd y cwrs hwn yn cael ei ardystio.
Mae gan bob sesiwn dasg asesu fer a bydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i’w chwblhau a’i hanfon at eu tiwtor. Bydd pob tasg yn cynnwys dau neu dri chwestiwn arddull arholiad i gyfranogwyr eu hateb. Hefyd, gofynnir i gyfranogwyr feddwl am y wybodaeth y bydd ei hangen ar fyfyrwyr i fynd i’r afael â chwestiynau o’r fath a dulliau addysgu posibl y gellid eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Y gobaith yw y bydd angen llai na 90 munud i gwblhau pob tasg.
Bydd ardystiad yn seiliedig ar gwblhau’r tasgau hyn yn foddhaol a thystiolaeth o bresenoldeb yn y sesiwn neu waith annibynnol trwy’r deunydd adnoddau.
Y dyddiad cau ar gyfer ardystio fydd Awst 2024