Mathemateg Bellach 3 – Cwrs Dysgu Proffesiynl

BethMethemateg Bellach 3 – Cwrs Dysgu Proffesiynol (Mecaneg Bellach)
PwyAthrawon CA5
PrydMedi 2024 – Mawrth 2025
SutHybrid- Ar-lein yn bennaf, gyda sesiynau byw yn cael eu cynnal i ymdrin â’r pynciau mwy cymhleth yn Ne a Gogledd Cymru
I archebufmspwales@swansea.ac.uk

Mwy o wybodeaeth

Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylw cynhwysfawr i MBU3 ac mae wedi’i anelu at athrawon sy’n cyflwyno Mathemateg Safon Uwch ar hyn o bryd ac a hoffai gyflwyno Mathemateg Bellach, neu athrawon sy’n addysgu Mathemateg Bellach ar hyn o bryd ac a hoffai gael sesiwn gloywi.

Strwythur y Cwrs: 3 Sesiwn. Bydd y cwrs hwn yn cael ei wasgaru dros y flwyddyn academaidd gyfan.

Sesiwn 1
Gwaith, Egni, Pŵer, Elastigedd


Medi-Hyd 2024
Cyflwyniad i Fodelu Mathemategol
Gwaith ac Egni
Pŵer
Llinynnau a sbringiau elastig. 
Sesiwn 2
Ergyd a Momentwm, Dulliau Fector

Tach-Rhag 2024
Ergyd a momentwm ar gyfer gwrthdrawiadau mewn un dimensiwn. 
Defnydd o fectorau i fodelu mudiant mewn dau neu dri dimensiwn.   
Sesiwn 3
Mudiant mawn Clych

Chwe – Maw 2025
Cinemateg mudiant mewn cylch 
Mudiant gyda buanedd cyson mewn cylchoedd llorweddol.
Mudiant mewn cylchoedd fertigol.  

Bydd pob modiwl yn cynnwys dwy sesiwn Zoom ar-lein, yn ystod yr wythnos, yn gynnar gyda’r nos, wedi’u gwahanu gan 7-14 diwrnod. Yn y sesiynau hyn, bydd y tiwtor yn ystyried prif gysyniadau’r testun. Bydd recordiadau fideo o’r sesiynau hyn ar gael fel y gall cyfranogwyr nad ydynt yn gallu bod yn bresennol weld y sesiwn a gollwyd.

Bydd sesiynau 1 yn cynnwys y posibilrwydd o fynychu sesiwn wyneb yn wyneb gyda thiwtor. Cynhelir y sesiynau hyn yn ystod yr wythnos ac yn Ne Cymru (Abertawe) a Gogledd Cymru (Wrecsam neu Fangor). Bydd y sesiynau hyn yn digwydd cyn y ddwy sesiwn Zoom. Byddant nid yn unig yn ymdrin â deunyddiau’r ddwy sesiwn ar-lein, ond byddant hefyd yn rhoi’r cyfle i chi gwrdd ag aelod o’r tîm tiwtor a chyfnewid syniadau a phrofiadau gyda rhai o’ch cyd-gyfranogwyr.

Bydd pecyn adnoddau llawn o ddeunyddiau dysgu, gan gynnwys y deunyddiau a ddefnyddiwyd yn y sesiynau Zoom ac wyneb yn wyneb, ar gael a’r gobaith yw y byddwch yn gweithio drwy’r adnoddau ac yn rhoi cynnig ar rai o’r ymarferion a ddarperir. Yn ystod y cyfnod hwn o hunan-astudio bydd gennych fynediad e-bost at eich tiwtor.

Disgwylir i gyfranogwyr fynychu cymaint o sesiynau ar-lein â phosibl.

Dyddiadau Cyrsiau:

Cynhelir sesiwn wyneb yn wyneb neu ar-lein ym mhob un o’r wythnosau a nodir. Bydd dyddiadau’n cael eu pennu cyn gynted â phosibl.

Wyneb yn wynebAr-lein
Sesiwn 1Tymor yr Hydref Wythnos 4Tymor yr Hydref Wythnos 5
Tymor yr Hydref Wythnos 6
Sesiwn 2Tymor yr Hydref Wythnos 11
Tymor yr Hydref Wythnos 12
Sesiwn 3Tymor y Gwanwyn Wythnos 6
Tymor y Gwanwyn Wythnos 8

Cyflwynir y sesiynau yn Saesneg; bydd deunyddiau ar gael yn ddwyieithog.

Bydd y cwrs hwn yn cael ei ardystio.

Mae gan bob sesiwn dasg asesu fer a bydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i’w chwblhau a’i hanfon at eu tiwtor. Bydd pob tasg yn cynnwys dau neu dri chwestiwn arddull arholiad i gyfranogwyr eu hateb. Hefyd, gofynnir i gyfranogwyr feddwl am y wybodaeth y bydd ei hangen ar fyfyrwyr i fynd i’r afael â chwestiynau o’r fath a dulliau addysgu posibl y gellid eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Y gobaith yw y bydd angen llai na 90 munud i gwblhau pob tasg.

Bydd ardystiad yn seiliedig ar gwblhau’r tasgau hyn yn foddhaol a thystiolaeth o bresenoldeb yn y sesiwn neu waith annibynnol trwy’r deunydd adnoddau.

Y dyddiad cau ar gyfer ardystio fydd Awst 2025.