BethMathemateg Bellach 4 – Cwrs Dysgu Proffesiynol (Pur Bellach)
PwyAthrawon CA5
PrydHydref 2024 i Gorffennaf 2025
SutHybrid- Ar-lein yn bennaf, gyda sesiynau byw yn cael eu cynnal i ymdrin â’r pynciau mwy cymhleth yn Ne a Gogledd Cymru
I archebufmspwales@swansea.ac.uk

Mwy o wybodeaeth

Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylw cynhwysfawr i MBU4 ac mae wedi’i anelu at athrawon sydd ar hyn o bryd yn cyflwyno Mathemateg Bellach lefel UG ac a hoffai gyflwyno Mathemateg Bellach Safon Uwch, neu athrawon sy’n addysgu MBU4 ar hyn o bryd ac a hoffai gael sesiwn gloywi.

Strwythur y Cwrs: 6 Sesiwn. Bydd y cwrs hwn yn cael ei wasgaru dros y flwyddyn academaidd gyfan.

Sesiwn 1
 Cyfresi Pŵer a Thrigonometreg


Hyd 2024
Cyfresi Maclaurin
Datrysiad cyffredinol hafaliadau trigonometrig
Y fformiwlâu ffactor
Defnydd o’r amnewidiad t= tan ½x 
Ffwythiannau Trigonometrig gwrthdro
Sesiwn 2
Rhifau Cymhlyd

Tach-Rhag 2024
Theorem De Moivre
Cymwysiadau i bwerau a gwreiddiau rhifau cymhlyg
Cymwysiadau i Drigonometreg
Geometreg gyda rhifau cymhlyg
Sesiwn 3
Ffwythiannau Hyperbolig

Ion – Chwe 2025
Cyflwyno’r ffwythiannau hyperbolig
Y ffwythiannau hyperbolig gwrthdro
Calcwlws y ffwythiannau hyperbolig a’r ffwythiannau hyperbolig gwrthdro. 
Y gromlin catena 
Sesiwn 4
Integru

Maw-Ebr 2025
Ffracsiynau rhannol. 
Integrynnau afreolaidd
Dulliau Integru Pellach
Cymwysiadau Integru
Sesiwn 5
Matricsau a Hafaliadau Cydamserol 

Cyfesurynnau Pegynlinol

Mai 2025
Determinant a Gwrthdro matrics 3×3. 
Datrysiad tri hafaliad cydamserol mewn tri anhysbysyn. 
 
 
Cyfesurynnau pegynlinol a chromliniau pegynlinol
Y defnydd o galcwlws i ymchwilio i gromliniau pegynlinol
Sesiwn 6
Hafaliadau Differol

Meh-Gor 2025
Hafaliadau differol union a defnydd o ffactor Integru. 
Datrysiad hafaliadau differol llinol trefn dau.
Cymwysiadau o hafaliadau differol. 

Bydd pob modiwl yn cynnwys dwy sesiwn Zoom ar-lein, yn ystod yr wythnos, yn gynnar gyda’r nos, wedi’u gwahanu gan 7-14 diwrnod. Yn y sesiynau hyn, bydd y tiwtor yn ystyried prif gysyniadau’r testun. Bydd recordiadau fideo o’r sesiynau hyn ar gael fel y gall cyfranogwyr nad ydynt yn gallu bod yn bresennol weld y sesiwn a gollwyd.

Bydd sesiynau 2 a 6 yn cynnwys y posibilrwydd o fynychu sesiwn wyneb yn wyneb gyda thiwtor. Cynhelir y sesiynau hyn yn ystod yr wythnos ac yn Ne Cymru (Abertawe) a Gogledd Cymru (Wrecsam neu Fangor). Bydd y sesiynau hyn yn digwydd cyn y ddwy sesiwn Zoom. Byddant nid yn unig yn ymdrin â deunyddiau’r ddwy sesiwn ar-lein, ond byddant hefyd yn rhoi’r cyfle i chi gwrdd ag aelod o’r tîm tiwtor a chyfnewid syniadau a phrofiadau gyda rhai o’ch cyd-gyfranogwyr.

Bydd pecyn adnoddau llawn o ddeunyddiau dysgu, gan gynnwys y deunyddiau a ddefnyddiwyd yn y sesiynau Zoom ac wyneb yn wyneb, ar gael a’r gobaith yw y byddwch yn gweithio drwy’r adnoddau ac yn rhoi cynnig ar rai o’r ymarferion a ddarperir. Yn ystod y cyfnod hwn o hunan-astudio bydd gennych fynediad e-bost at eich tiwtor.

Disgwylir i gyfranogwyr fynychu cymaint o sesiynau ar-lein â phosibl..

Course Dates:

A face-to-face or online session will be held in each of the weeks indicated. Dates will be set as soon as possible.

Wyneb yn wynebAr-lein
Sesiwn 1Tymor yr Hydref Wythnos 4
Tymor yr Hydref Wythnos 6
Sesiwn 2Tymor yr Hydref Wythnos 3Tymor yr Hydref Wythnos 10
Tymor yr Hydref Wythnos 12
Sesiwn 3Tymor y Gwanwyn Wythnos 4
Tymor y Gwanwyn Wythnos 6
Sesiwn 4Tymor y Gwanwyn Wythnos 9
Tymor y Gwanwyn Wythnos 10
Sesiwn 5Tymor yr Haf Wythnos 5
Tymor yr Haf Wythnos 6
Sesiwn 6Tymor yr Haf Wythnos 8Tymor yr Haf Wythnos 9
Tymor yr Haf Wythnos10

Cyflwynir y sesiynau yn Saesneg; bydd deunyddiau ar gael yn ddwyieithog.

Bydd y cwrs hwn yn cael ei ardystio.

Mae gan bob sesiwn dasg asesu fer a bydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i’w chwblhau a’i hanfon at eu tiwtor. Bydd pob tasg yn cynnwys dau neu dri chwestiwn arddull arholiad i gyfranogwyr eu hateb. Hefyd, gofynnir i gyfranogwyr feddwl am y wybodaeth y bydd ei hangen ar fyfyrwyr i fynd i’r afael â chwestiynau o’r fath a dulliau addysgu posibl y gellid eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Y gobaith yw y bydd angen llai na 90 munud i gwblhau pob tasg.

Bydd ardystiad yn seiliedig ar gwblhau’r tasgau hyn yn foddhaol a thystiolaeth o bresenoldeb yn y sesiwn neu waith annibynnol trwy’r deunydd adnoddau.

Y dyddiad cau ar gyfer ardystio fydd Awst 2025