BethDosbarthiadau Meistr Mathemateg y Sefydliad Brenhinol
PamMyfyrwyr Blwyddyn 10 sy’n alluog mewn mathemategol ac y bernir bod ganddynt botensial a diddordeb yn y dosbarthiadau
Prydnosweithiau Iau 4:45pm-6:30pm 20 Mehefin, 27 Mehefin, 4 Gorffennaf a 11 Gorffennaf
SutBydd y Dosbarthiadau Meistr yn cael eu cynnal ar-lein dros Zoom
I archebu https://forms.gle/WGPrGsAkBwsKsZyWA

Hoffwn eich gwahodd i enwebu disgyblion sy’n alluog mewn mathemateg, i fynychu Dosbarthiadau Meistr Mathemateg y Sefydliad Brenhinol sydd i’w cynnal ar-lein dros Zoom. Bydd y gyfres o 4 dosbarth ar ddydd Iau o 4:45pm tan 6:30pm ar Fehefin 20fed, Mehefin 27ain, Gorffennaf 4ydd a Gorffennaf 20fed.

Bydd tua 60 o leoedd ar gael i gyd. Bydd yr holl leoedd yn cael eu dyrannu ar sail yr un gwahoddiad hwn a gwarantir DAU le i bob ysgol. Dyma ddolen i ffurflen enwebu’r ysgol i chi restru hyd at bump o ddisgyblion yr hoffech fynychu: https://forms.gle/WGPrGsAkBwsKsZyWA Efallai bydd y galw am leoedd yn fwy na’r nifer sydd ar gael er y byddwn yn ceisio cynnig lle i bob disgybl sy’n cael ei enwebu. Os byddwch yn enwebu mwy na dau ddisgybl rhowch nhw yn nhrefn blaenoriaeth fel y gellir cynnig lleoedd heb gysylltu â chi.

Hoffem annog athrawon, os yn bosibl, i enwebu o leiaf cymaint o ferched â bechgyn ar gyfer ein Dosbarthiadau Meistr, gan fod merched yn aml yn cael eu tangynrychioli mewn mathemateg.

Dosbarthwch y ffurflen caniatâd rhieni: https://forms.gle/dywcbaXXccxZxZt1A i fyfyrwyr sydd wedi eu henwebu. Pwysleisiwch wrth eich disgyblion, er ein bod yn anelu at sefydlu awyrgylch gwaith pleserus, y disgyblion a fydd yn cael y budd mwyaf yw’r rhai mwyaf astud a gweithgar.

Dychwelwch y ffurflen enwebu a’r ffurflenni caniatâd rhieni o’ch ysgol erbyn dydd Llun 3ydd o Fehefin 2024 fan bellaf (mae’r manylion cyswllt ar y ffurflen enwebu).

Gellir anfon ffurflenni enwebu ymlaen llaw os yw’n well gennych. Mae croeso i athrawon mathemateg fynychu unrhyw un neu bob un o’r dosbarthiadau meistr. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch fmspwales@swansea.ac.uk.