BethMecaneg ar gyfer Unedau 2 a 4 Safon Uwch Mathemateg
PwyAthrawon CA5
PrydMehefin i Hydref 20233
SutAr-lein
I archebub.h.denyer@swansea.ac.uk

Rhagor o wybodaeth

Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylw cynhwysfawr i’r cysyniadau Mecaneg sydd eu hangen ar gyfer Mathemateg Safon Uwch a bydd yn edrych ar sut i gyflwyno’r deunydd yn effeithiol trwy ymgysylltu â’r myfyrwyr.

Mae wedi’i anelu at athrawon a hoffai ddatblygu eu sgiliau Mecaneg i’w galluogi i addysgu’r rhan hon o’r cwrs am y tro cyntaf. Bydd hefyd yn addas ar gyfer y staff hynny nad ydynt wedi addysgu Mecaneg ers nifer o flynyddoedd ac a hoffai gael cwrs gloywi.

Strwythur y Cwrs: 5 Modiwl, pob un i fod yn hybrid.

Sesiwn 1: Mehefin 21, 2023

Sesiwn 2: Gorffennaf 12, 2023

Bydd Sesiynau 3 i 5 yn cael eu cynnal yn Nhymor yr Hydref.

Bydd pob sesiwn yn cael ei recordio ar gyfer y rhai na allant fod yn bresennol.

Bydd pob modiwl gwaith yn para 3-4 wythnos.

Ar ddechrau’r sesiwn, byddwch yn derbyn pecyn adnoddau o ddeunyddiau astudio sy’n cynnwys,

o PowerPoint esboniadol gydag ymarferion ac atebion

o lle bo’n briodol, adnoddau geogebra neu excel.

o PowerPoint ychwanegol yn cynnwys detholiad o gwestiynau arddull arholiad (heb atebion).

Yn ystod y sesiwn bydd gennych fynediad e-bost at y tiwtor, a gobeithiwn drefnu cyfarfod zoom “galw heibio” gwirfoddol lle gallwch drafod y cynnwys gyda chydweithwyr eraill a/neu’r tiwtor.

Ar ddiwedd y sesiwn bydd cyfarfod zoom a’r gobaith yw y bydd pawb yn gallu mynychu. Yn ystod y sesiwn hon, bydd atebion i’r PowerPoint o gwestiynau arddull arholiad yn cael eu hystyried a bydd cyfleoedd i drafod unrhyw anawsterau sydd wedi codi.

Cyflwynir y sesiynau yn Saesneg; bydd deunyddiau ar gael yn ddwyieithog.