Beth | Cwrs ar gysylltiad mathemategol |
Pwy | Athrawon CA5 |
Pryd | 17/01/2023, 24/01/2023, 28/02/2023 a 14/03/2023. 6 to 8 pm |
How | Ar-lein |
To book | b.h.denyer@swansea.ac.uk |
Mwy o wybodaeth
Bydd y cwrs hwn yn edrych ar ddylunio (neu addasu) Rhaglen Astudio Lefel A gyda ffocws penodol ar gysylltiad mathemategol, gan helpu i gyfeirio at y cysylltiadau hyn yn haws, gan gynnwys y rhai a all rychwantu sawl maes. Gall agwedd o’r fath helpu myfyrwyr (ac athrawon!) i ddatblygu eu synnwyr o sut mae gweithredoedd, prosesau a gwrthrychau mathemategol yn gysylltiedig. Mae dealltwriaeth o’r fath yn arwain at fyfyrwyr yn datblygu delwedd feddyliol ddyfnach o gysylltiad mathemategol, gan wreiddio gwybodaeth a dealltwriaeth yn fwy cadarn a chynyddu hyder wrth ddatrys problemau. I’w gynnal ar-lein, o 18:00 i 20:00 ar 17/01/2023 24/01/2023 28/02/2023 14/03/2023 Cysylltwch â Bethanie i archebu. |