Geogebra Mecaneg Lefel 1: Mathemateg Safon Uwch

BethGeogebra fel adnodd i ddysgu Mecaneg Mathemateg Safon Uwch (MU2/4)
PwyAthrawon CA5
PrydTymor yr Haf 2023-2024
SutAr-lein
I gofrestrufmspwales@swansea.ac.uk

Rhagor o wybodaeth

Mae’r cwrs hwn yn cyflwyno ffyrdd y gallai Geogebra fod yn ddefnyddiol mewn ystafell ddosbarth Mathemateg Safon Uwch.

Mae’r cwrs yn addas ar gyfer athrawon Safon Uwch sydd â gwybodaeth sylfaenol o Geogebra (sy’n gyfarwydd â graffio sylfaenol a defnyddio blychau mewnbwn, blychau ticio a llithryddion.) Nod y cwrs yw rhoi’r sgiliau angenrheidiol i gyfranogwyr i gynhyrchu rhaglennig syml ond defnyddiol a fydd yn darlunio cysyniadau o unedau Mathemateg M2 ac M4 CBAC.

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno trwy ddwy sesiwn Zoom gyda’r nos, un yn hanner cyntaf Tymor yr Haf ac un yn ail hanner Tymor yr Haf. Bydd pob sesiwn yn para 2 awr.

Bydd y rhan fwyaf o’r sesiynau yn ymarferol gyda’r tiwtoriaid yn esbonio sut y gellir paratoi rhaglenni Geogebra ac yn mynd â chyfranogwyr drwy’r adeiladu gam wrth gam. Felly bydd angen i’r cyfranogwyr gael Geogebra wedi’i lwytho ar yr un cyfrifiadur neu liniadur y maent yn ei ddefnyddio i dderbyn cyfarfod Zoom. Byddem yn argymell eich bod yn lawrlwytho fersiwn Classic 5 neu Classic 6 Geogebra ar gyfer y sesiynau hyn.

Yn ystod y sesiynau, gofynnir i gyfranogwyr rannu eu sgrin Geogebra yn ystod y broses adeiladu fel y gellir datrys unrhyw anawsterau yn gyflym. Mae hyn yn golygu bod angen cyfyngu nifer y cyfranogwyr ar gyfer y cwrs hwn i uchafswm o 6. Os bydd y galw am y cwrs hwn yn ddigonol, efallai y bydd modd cyflwyno’r cwrs ddwywaith.

Mae’r cwrs yn cael ei gynllunio ar hyn o bryd ond mae’r sesiynau’n debygol o gynnwys:

Graffiau t,x,v,a

Creu animeiddiadau syml o sefyllfaoedd mecanyddol

Sesiwn 1: Tymor yr Haf – Hanner Tymor Cyntaf

Sesiwn 2: Tymor yr Haf – Ail Hanner Tymor

Bydd y sesiwn yn dechrau am 6.30pm ac yn para hyd at 2 awr.

Bydd y cwrs hwn yn cael ei ardystio. Er mwyn derbyn Tystysgrif Cyflawniad, bydd disgwyl i gyfranogwyr fynychu o leiaf un o’r sesiynau a chwblhau, i lefel foddhaol, dasg wedi’i hasesu sy’n cynnwys dylunio rhaglennig Geogebra syml ac ymwybyddiaeth o sut y gellir ei defnyddio o fewn y rhaglen addysgu.