Mathemateg yw’r unig bwnc Safon Uwch sy’n cynnig dau cymhwyster Safon Uwch – Mathemateg a Mathemateg Bellach. Mae Mathemateg Bellach yn gwrs Safon UG/Uwch a chaiff ei ddylunio i gael ei astudio ar y cyd gyda Mathemateg ym Mlwyddyn 12, ond gallai gael ei gymryd fel UG ym Mlwyddyn 13. Caiff Mathemateg Bellach Safon Uwch ei ffurfio gan 5 modiwl yn cynnwys pynciau pur a chymhwysol.
Mae cymwysterau Mathemateg Bellach yn uchel eu parch a chaiff eu croesawu’n gynnes gan brifysgolion a maent yn datblygu nifer o sgiliau trosglwyddadwy mae cyflogwyr yn galw amdanynt. Gweler rhagor o wybodaeth ar ein dewislennau-cwympo am beth yw Mathemateg Bellach, ei fuddion, sut caiff ei astudio a chyfleoedd Addysg Uwch a Gyrfaoedd. Gallwch ddarllen ein Llyfryn Rhieni fan hyn.
Mae croeso i rieni ac athrawon i fynychu unrhyw digwyddiad. Isod rhestrir digwyddiadau cyffredinol sy’n cyflwyno Mathemateg Bellach a datrys problemau fyddai o bosib o ddiddordeb. Gweler pob digwyddiad myfyriwr yn cynnwys gweithdai pwnc wedi’i seilio ar y cwricwlwm fan hyn. Am ragor o wybodaeth ac ymholiadau cyffredinol e-bostiwch rhgmc-mspw@swansea.ac.uk