Cyfres Pontio Mathemateg i Brifysgol

Mae RhGMB Cymru yn cynnal cyfres gyffrous o gyflwyniadau wedi’u recordio ymlaen llaw a fydd yn galluogi myfyrwyr blwyddyn 13 i bontio tuag at astudio pynciau STEM yn y Brifysgol. Anaml y bydd amser yn ystod fframwaith addysgu ysgolion i weld sut y gellir defnyddio hafaliadau differol i fodelu epidemigau; neu i ymchwilio sut mae Rhifau Cymhlyg yn cynhyrchu’r set anhygoel Mandelbrot. Mae’r cwrs presennol yn gyfle i gysylltu ag Addysg Uwch i elwa o’u gwybodaeth ddofn o’r pwnc a’u cynefindra agos â mathemateg ar lefel prifysgol. Argymhellir y rhaglen i unrhyw fyfyrwyr sy’n ystyried cymryd gradd sy’n cynnwys llawer o fathemateg ym mis Medi 2022.  

Mae mwyafrif y sgyrsiau’n cael eu paratoi gan academyddion mathemateg ac mae ychydig o sgyrsiau’n ystyried disgyblaeth stem arall lle mae mathemateg yn chwarae rhan bwysig, fel ffiseg, gwyddoniaeth gyfrifiadurol neu beirianneg. Bydd pob sesiwn yn cael ei recordio ymlaen llaw ac oddeutu 30 munud o hyd. Fe’u rhyddheir yn unol â’r llyfryn sydd ynghlwm a bydd pob un ar gael am gyfnod cyfyngedig. Bydd cyfle i fyfyrwyr ofyn cwestiynau i’r darlithydd am y cyflwyniad trwy e-bost, a bydd y darlithydd yn rhyddhau ymateb fideo i gwestiynau dethol, yn yr ail wythnos.  

Gofynnwn i athrawon goladu manylion y myfyrwyr sydd â diddordeb ac anfon un ffurflen gais atom: FMSPWales@swansea.ac.uk.  Mae rhaglen llawn ar gael i lawrlwytho isod.

Os oes gennych fyfyrwyr sydd eisoes wedi cofrestru byddant yn derbyn y fideo gyntaf heddiw. Mae lleoedd ar ôl o hyd – dychwelwch ffurflen cyn gynted â phosib i gael mynediad i’r fideo gyntaf.

Mae’r sesiynau hyn am ddim i bob disgybl mewn ysgolion/colegau a Ariennir gan y Wladwriaeth yng Nghymru  

Bydd unrhyw negeseuon e-bost a anfonir at y myfyrwyr yn cael eu hanfon at yr athro hefyd. Byddai’n well gennym i’r myfyrwyr ddefnyddio eu cyfeiriad e-bost ysgol. Yn unol â rheoliadau GDPR, dim ond am gyfnod y flwyddyn academaidd hon (2021/2022) y bydd y wybodaeth hon yn cael ei chadw ac yna’n cael ei dileu. Ni fydd yn cael ei rannu y tu allan i Dîm RhGMB Cymru, a bydd unrhyw negeseuon e-bost a anfonir yn cael eu copïo’n anweledig.   Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, mae croeso i chi gysylltu â ni.