Cydweithwyr…

Rydym wedi bod yn brysur yn llunio rhaglen o ddysgu proffesiynol i gefnogi athrawon mathemateg a mathemateg bellach UG a Safon Uwch ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Bydd manylion yn cael eu cylchredeg yn fuan.

Yn y cyfamser, rydym wedi paratoi ychydig o fideos byr i roi blas i chi o’r cyflwyniadau a’r arddull. Mae’r PowerPoints a ddefnyddir i greu’r fideos ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg pe byddech yn dymuno defnyddio unrhyw un ohonynt.  Bydd fersiynau Cymraeg o’r fideos ar gael cyn gynted â phosibl.

Disgwyliwn allu rhedeg peth o’r dysgu proffesiynol wyneb yn wyneb, gan obeithio gallu llifo’n fyw i feysydd eraill, eto rhagor o fanylion i ddod yn y man. Ein bwriad yw cofnodi’r holl sesiynau dysgu proffesiynol eleni a sicrhau eu bod ar gael i gydweithwyr nad ydynt yn gallu mynychu a bydd yr adnodd hwn yn cael ei gefnogi gan diwtor profiadol.

Os oes rhai agweddau penodol ar fathemateg yr hoffech gael cefnogaeth, cysylltwch naill ai â’ch Cydlynydd Ardal neu gyda mi (a.s.wells@swansea.ac.uk).

Adrian Wells, Arweinydd Rhaglen dysgu proffesiynol.

Deunyddiau Blasu

Mathemateg UG Uned 1 Pur

Bydd fersiynau Cymraeg o’r fideos ar gael cyn gynted â phosibl.

Mathemateg UG Uned 2 Cymhwysol

Bydd fersiynau Cymraeg o’r fideos ar gael cyn gynted â phosibl.

Mathemateg A2 Uned 3 Pur

Bydd fersiynau Cymraeg o’r fideos ar gael cyn gynted â phosibl.

Mathemateg A2 Uned 4 Cymhwysol