Beth | Mathemateg Bellach 4 – Cwrs Dysgu Proffesiynol (Pur Bellach) |
Pwy | Athrawon CA5 |
Pryd | Hydref 2024 i Gorffennaf 2025 |
Sut | Hybrid- Ar-lein yn bennaf, gyda sesiynau byw yn cael eu cynnal i ymdrin â’r pynciau mwy cymhleth yn Ne a Gogledd Cymru |
I archebu | rhgmc-mspw@swansea.ac.uk |
Mwy o wybodeaeth
Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylw cynhwysfawr i MBU4 ac mae wedi’i anelu at athrawon sydd ar hyn o bryd yn cyflwyno Mathemateg Bellach lefel UG ac a hoffai gyflwyno Mathemateg Bellach Safon Uwch, neu athrawon sy’n addysgu MBU4 ar hyn o bryd ac a hoffai gael sesiwn gloywi.
Strwythur y Cwrs: 6 Sesiwn. Bydd y cwrs hwn yn cael ei wasgaru dros y flwyddyn academaidd gyfan.
Sesiwn 1 Cyfresi Pŵer a Thrigonometreg Hyd 2024 | Cyfresi Maclaurin Datrysiad cyffredinol hafaliadau trigonometrig Y fformiwlâu ffactor Defnydd o’r amnewidiad t= tan ½x Ffwythiannau Trigonometrig gwrthdro |
Sesiwn 2 Rhifau Cymhlyd Tach-Rhag 2024 | Theorem De Moivre Cymwysiadau i bwerau a gwreiddiau rhifau cymhlyg Cymwysiadau i Drigonometreg Geometreg gyda rhifau cymhlyg |
Sesiwn 3 Ffwythiannau Hyperbolig Ion – Chwe 2025 | Cyflwyno’r ffwythiannau hyperbolig Y ffwythiannau hyperbolig gwrthdro Calcwlws y ffwythiannau hyperbolig a’r ffwythiannau hyperbolig gwrthdro. Y gromlin catena |
Sesiwn 4 Integru Maw-Ebr 2025 | Ffracsiynau rhannol. Integrynnau afreolaidd Dulliau Integru Pellach Cymwysiadau Integru |
Sesiwn 5 Matricsau a Hafaliadau Cydamserol Cyfesurynnau Pegynlinol Mai 2025 | Determinant a Gwrthdro matrics 3×3. Datrysiad tri hafaliad cydamserol mewn tri anhysbysyn. Cyfesurynnau pegynlinol a chromliniau pegynlinol Y defnydd o galcwlws i ymchwilio i gromliniau pegynlinol |
Sesiwn 6 Hafaliadau Differol Meh-Gor 2025 | Hafaliadau differol union a defnydd o ffactor Integru. Datrysiad hafaliadau differol llinol trefn dau. Cymwysiadau o hafaliadau differol. |
Bydd pob modiwl yn cynnwys dwy sesiwn Zoom ar-lein, yn ystod yr wythnos, yn gynnar gyda’r nos, wedi’u gwahanu gan 7-14 diwrnod. Yn y sesiynau hyn, bydd y tiwtor yn ystyried prif gysyniadau’r testun. Bydd recordiadau fideo o’r sesiynau hyn ar gael fel y gall cyfranogwyr nad ydynt yn gallu bod yn bresennol weld y sesiwn a gollwyd.
Bydd sesiynau 2 a 6 yn cynnwys y posibilrwydd o fynychu sesiwn wyneb yn wyneb gyda thiwtor. Cynhelir y sesiynau hyn yn ystod yr wythnos ac yn Ne Cymru (Abertawe) a Gogledd Cymru (Wrecsam neu Fangor). Bydd y sesiynau hyn yn digwydd cyn y ddwy sesiwn Zoom. Byddant nid yn unig yn ymdrin â deunyddiau’r ddwy sesiwn ar-lein, ond byddant hefyd yn rhoi’r cyfle i chi gwrdd ag aelod o’r tîm tiwtor a chyfnewid syniadau a phrofiadau gyda rhai o’ch cyd-gyfranogwyr.
Bydd pecyn adnoddau llawn o ddeunyddiau dysgu, gan gynnwys y deunyddiau a ddefnyddiwyd yn y sesiynau Zoom ac wyneb yn wyneb, ar gael a’r gobaith yw y byddwch yn gweithio drwy’r adnoddau ac yn rhoi cynnig ar rai o’r ymarferion a ddarperir. Yn ystod y cyfnod hwn o hunan-astudio bydd gennych fynediad e-bost at eich tiwtor.
Disgwylir i gyfranogwyr fynychu cymaint o sesiynau ar-lein â phosibl..
Course Dates:
A face-to-face or online session will be held in each of the weeks indicated. Dates will be set as soon as possible.
Wyneb yn wyneb | Ar-lein | |
Sesiwn 1 | Tymor yr Hydref Wythnos 4 Tymor yr Hydref Wythnos 6 | |
Sesiwn 2 | Tymor yr Hydref Wythnos 3 | Tymor yr Hydref Wythnos 10 Tymor yr Hydref Wythnos 12 |
Sesiwn 3 | Tymor y Gwanwyn Wythnos 4 Tymor y Gwanwyn Wythnos 6 | |
Sesiwn 4 | Tymor y Gwanwyn Wythnos 9 Tymor y Gwanwyn Wythnos 10 | |
Sesiwn 5 | Tymor yr Haf Wythnos 5 Tymor yr Haf Wythnos 6 | |
Sesiwn 6 | Tymor yr Haf Wythnos 8 | Tymor yr Haf Wythnos 9 Tymor yr Haf Wythnos10 |
Cyflwynir y sesiynau yn Saesneg; bydd deunyddiau ar gael yn ddwyieithog.
Bydd y cwrs hwn yn cael ei ardystio.
Mae gan bob sesiwn dasg asesu fer a bydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i’w chwblhau a’i hanfon at eu tiwtor. Bydd pob tasg yn cynnwys dau neu dri chwestiwn arddull arholiad i gyfranogwyr eu hateb. Hefyd, gofynnir i gyfranogwyr feddwl am y wybodaeth y bydd ei hangen ar fyfyrwyr i fynd i’r afael â chwestiynau o’r fath a dulliau addysgu posibl y gellid eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Y gobaith yw y bydd angen llai na 90 munud i gwblhau pob tasg.
Bydd ardystiad yn seiliedig ar gwblhau’r tasgau hyn yn foddhaol a thystiolaeth o bresenoldeb yn y sesiwn neu waith annibynnol trwy’r deunydd adnoddau.
Y dyddiad cau ar gyfer ardystio fydd Awst 2025