Beth | Gwersyll Mathemateg Ryngwladol i fyfyrwyr o Gymru, UDA, Awstralia, Japan a’r Almaen. |
Pam | Myfyrwyr 15+ oed gyda diddordeb brwd mewn mathemateg |
Pryd | Dydd Sadwrn 18 Mawrth (15:00-18:00) a dydd Sadwrn 25 Mawrth (9:00-12:00) |
Sut | Ar-lein |
I archebu | e.w.clode@swansea.ac.uk |
Mwy o wybodaeth
Annwyl athro
Mae croeso i fyfyrwyr o Gymru ymuno â gwersyll mathemateg ar-lein ryngwladol i weithio ar broblemau mathemateg ochr yn ochr â myfyrwyr ac academyddion o Awstralia, Japan, UDA a’r Almaen. Bydd y gwersylloedd yn cael eu rhedeg ar-lein gan ddefnyddio ZOOM. Bydd myfyrwyr yn mynychu dwy o dair sesiwn (yn dibynnu ar leoliad). Mae pob sesiwn yn cynnwys dau Fyd Mathemateg. Mae pob sesiwn yn 3 awr. Bydd y gweithgareddau i fyfyrwyr o Gymru yn digwydd ar ddydd Sadwrn 18 Mawrth (15:00-18:00) a dydd Sadwrn 25 Mawrth (9:00-12:00). Mae paru gwledydd ym mhob sesiwn yn wahanol, felly bydd pob myfyriwr yn gweithio gyda myfyrwyr o ddwy wlad arall o leiaf. Anogir sgwrsio a rhannu rhai pethau am eich bywyd a’ch gwlad. Cynhelir pob sesiwn yn Saesneg
Bydd myfyrwyr o Gymru yn cael eu goruchwylio gan academyddion o Brifysgol Abertawe, gyda nifer cyfyngiedig o leoedd sydd ar gael ar draws pob gwlad. I wneud cais, ebostiwch y cyfeiriad isod i gael rhagor o wybodaeth a ffurflen caniatâd rhieni. Rhaid i fyfyrwyr fod yn 15+ oed gyda diddordeb brwd mewn mathemateg. Mae’r gwersyll yn rhad ac am ddim. Mae croeso i’r athrawon fynychu ochr yn ochr â’u myfyrwyr (hyd at 5 myfyriwr). Gweler rhai problemau o wersylloedd blaenorol yma http://furthermaths.wales/cy/bydoedd/
I wneud cais am y digwyddiad cyffroes yma e-bostiwch e.w.clode@swansea.ac.uk gyda enwau eich myfyrwyr erbyn dydd Gwener 10fed o Fawrth.