Mynd i'r cynnwys

Gweithdy Prawf ar Mathemateg CA3,4 a 5

BethGweithdy Prawf ar gyfer Mathemateg CA3, 4 a 5 (Hyd at Fathemateg Safon Uwch)
PwyAthrawon CA3, 4 a 5
PrydDydd Mercher 28 Medi 2022. 18:00 a 20:00
SutAr-lein
I archeburhgmc-mspw@swansea.ac.uk

Mwy O wybodaeth

Yn y sesiwn hon byddwn yn dechrau trwy edrych yn gryno ar bwysigrwydd prawf ac ymchwilio iddo. Byddwn yn edrych ar sut rydym yn datblygu prawf o CA 3 hyd at CA 4 i Fathemateg Safon Uwch.

Byddwn yn edrych ar enghreifftiau o gwestiynau prawf Blwyddyn 7 i 11, gydag enghreifftiau ymarferol o gwestiynau prawf y gellir eu defnyddio gyda myfyrwyr iau.

Yn ystod y sesiwn bydd deunydd enghreifftiol gan ystyried amrywiaeth o ddulliau y gellir eu defnyddio i ddatrys problemau ar brawf. Bydd cyfle hefyd i’r cyfranogwyr roi cynnig ar gwestiynau a thrafod y dulliau a ddefnyddiwyd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu’r gweithdy Prawf e-bostiwch rhgmc-mspw@swansea.ac.uk