Beth | Geogebra fel arf dysgu Mathemateg Safon Uwch |
Pwy | Athrawon CA5 |
Pryd | ddyddiad i’w drefnu |
How | Wyneb yn wyneb ym Mhrifysgol Bangor a’i ffrydio’n fyw |
To book | b.h.denyer@swansea.ac.uk |
Mwy o wybodaeth
Mae’r cwrs hwn yn cyflwyno ffyrdd y gallai Geogebra fod yn ddefnyddiol mewn dosbarth Mathemateg Safon Uwch. Dylai fod yn iawn i’r rhai sy’n newydd i’r feddalwedd. Nod y cwrs yw rhoi’r sgiliau angenrheidiol i gyfranogwyr gynhyrchu rhaglennig syml ond defnyddiol a fydd yn rhoi cysyniadau o unedau Mathemateg M1 a M3 CBAC. Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno mewn lleoliad hybrid. Yn ddelfrydol bydd cyfranogwyr yn mynychu’r cwrs mewn person ym Mhrifysgol Bangor, fodd bynnag bydd y sesiwn yn cael ei ffrydio’n fyw i gyfranogwyr na allant fynychu’n fyw. Bydd cyfranogwyr yn gweithio gyda Geogebra yn ystod y sesiynau felly bydd angen iddynt gael mynediad, ar y cyfrifiadur y maent yn ei ddefnyddio ar gyfer y sesiwn, i un o fersiynau Geogebra y gellir eu llwytho i lawr (Classic 5 neu Classic 6) neu i’r fersiwn we. Sesiwn 1 : Geogebra fel Adnodd Graffio · Cyflwyno Geogebra · Cynhyrchu Graffiau o ffwythiannau · Ymchwilio i raddiannau a’r hafaliad y=mx+c · Ymchwilio i graffiau a hafaliadau Sesiwn 2 : Geogebra fel Adnodd Ysgogi · Ysgogi canlyniadau graddiant · Archwilio Ffwythiannau a Thrawsnewidiadau · Ffwythiannau cynyddol, gostyngol, amgrwm a cheugrwm Sesiwn 1: TBC Sesiwn 2: TBC Bydd y sesiwn yn dechrau am 3.45pm ac yn para hyd at 2 awr. |