Mynd i'r cynnwys

Geogebra: Gweithdy Setiau Data Mawr

BethGeogebra fel adnodd darlunio a dadansoddi gweithdai setiau data mawr
PwyAthrawon CA4 a CA5
Pryd17 Gorffennaf 2023
SutAr-lein
I archeburhgmc-mspw@swansea.ac.uk

Rhagor o wybodaeth

Gan ddefnyddio data o “Ganlyniadau Cyfrifiad Ysgolion Llywodraeth Cymru Ebrill 2021”, bydd y gweithdy hwn yn:

• Cyrchu data am niferoedd disgyblion ac athrawon yng ngwahanol Siroedd Cymru,

• Fformatio’r data yn y fath fodd fel y gellir ei ddefnyddio o fewn taenlen Geogebra

• Defnyddio Geogebra i gynhyrchu’r diagramau ystadegol a’r dadansoddiad a allai fod yn ddefnyddiol mewn ymchwiliad ystadegol.

Nid oes angen gwybodaeth uwch o Geogebra ar gyfer y gweithdy: argymhellir eich bod yn mynychu’r sesiwn gyda dyfais sy’n rhedeg naill ai fersiynau Classic 5 neu Classic 6 Geogebra.

Bydd y gweithdy yn cael ei gyflwyno trwy Zoom ar 17eg Gorffennaf 2023 gan ddechrau am 18:30 a dylai bara tua 90 munud.

Cofrestrwch ar gyfer y cwrs erbyn 5 Gorffennaf 2023 fan bellaf, fel y gellir anfon copïau o’r taflenni data sydd i’w defnyddio atoch cyn y sesiwn.