Dosbarthiadau Meistr y Sefydliad Brenhinol Blwyddyn 9 2024

DOSBARTHIADAU MEISTR MATHEMATEG AR FORE SADWRN

This image has an empty alt attribute; its file name is aber-photo-1-1024x816.jpeg

AR GYFER DISGYBLION MWY GALLUOG A THALENTOG BLWYDDYN 9

Hoffwn eich gwahodd i enwebu disgyblion sy’n alluog mewn mathemateg i fynychu Dosbarthiadau Meistr Mathemateg y Sefydliad Brenhinol i’w gynnal wyneb yn wyned ym Mhrifysgol Abertawe.  Bydd yn gyfres o 4 dosbarth ar ddyddiau Sadwrn yn ystad tymor y Gwanwyn 2024 o 9:40 nes hanner dydd ar 24 Chwefror, 2, 9 a 16 o Fawrth 2024. 2024.                                                                   

Bydd tua 120 o leoedd ar gael i gyd i fyfyrwyr o ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth.  Bydd pob un o’r lleoedd yn cael eu rhoi ar sail yr un gwahoddiad hwn ac mae DAU le wedi’i warantu i bob ysgol.  Gall pob ysgol enwebu hyd at bump o ddisgyblion yr hoffech i fynychu.  Efallai y bydd y galw am leoedd yn fwy na’r nifer sydd ar gael er y byddaf yn ceisio cynnig lle i bob disgybl sy’n cael ei enwebu.  Os ydych yn enwebu mwy na dau ddisgybl a fyddech gystal â’u rhoi mewn trefn blaenoriaeth fel y gallwn gynnig lleoedd heb gysylltu â chi.

Mae dolenni isod ar gyfer eich ffurflen enwebu a ffurflen caniatâd rhieni ar gyfer y plant sydd â diddordeb yn y band oedran cywir, hy Blwyddyn 9 yn 2023/24.  Er ein bod yn anelu at sefydlu awyrgylch gweithio pleserus, a fyddech gystal â phwysleisio i’ch disgyblion mai y rhai a fydd yn cael y budd mwyaf yw’r disgyblion hynny sy’n talu sylw ac yn gweithio’n galed.

 fyddech gystal â sicrhau fod y ddwy ffurflen yma wedi e’u llenwi a’i cyflwyno cyn i’ch ysgol gau ar gyfer gwyliau’r Nadolig.

Mae croeso i holl athrawon mathemateg i fynychu unrhyw un neu bob un o’r dosbarthiaau meistr.  Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Hayley Owen hao9@aber.ac.uk  drwy ebost.

Yr eiddoch yn gywir

Sofya Lyakhova

FMSP Wales Coordinator