DOSBARTHIADAU MEISTR MATHEMATEG AR FORE SADWRN
AR GYFER DISGYBLION MWY GALLUOG A THALENTOG BLWYDDYN 9
Hoffwn eich gwahodd i enwebu disgyblion sy’n alluog mewn mathemateg i fynychu Dosbarthiadau Meistr Mathemateg y Sefydliad Brenhinol i’w gynnal wyneb yn wyned ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd yn gyfres o 4 dosbarth ar ddyddiau Sadwrn yn ystad tymor y Gwanwyn 2024 o 9:40 nes hanner dydd ar 24 Chwefror, 2, 9 a 16 o Fawrth 2024. 2024.
Bydd tua 120 o leoedd ar gael i gyd i fyfyrwyr o ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth. Bydd pob un o’r lleoedd yn cael eu rhoi ar sail yr un gwahoddiad hwn ac mae DAU le wedi’i warantu i bob ysgol. Gall pob ysgol enwebu hyd at bump o ddisgyblion yr hoffech i fynychu. Efallai y bydd y galw am leoedd yn fwy na’r nifer sydd ar gael er y byddaf yn ceisio cynnig lle i bob disgybl sy’n cael ei enwebu. Os ydych yn enwebu mwy na dau ddisgybl a fyddech gystal â’u rhoi mewn trefn blaenoriaeth fel y gallwn gynnig lleoedd heb gysylltu â chi.
Mae dolenni isod ar gyfer eich ffurflen enwebu a ffurflen caniatâd rhieni ar gyfer y plant sydd â diddordeb yn y band oedran cywir, hy Blwyddyn 9 yn 2023/24. Er ein bod yn anelu at sefydlu awyrgylch gweithio pleserus, a fyddech gystal â phwysleisio i’ch disgyblion mai y rhai a fydd yn cael y budd mwyaf yw’r disgyblion hynny sy’n talu sylw ac yn gweithio’n galed.
 fyddech gystal â sicrhau fod y ddwy ffurflen yma wedi e’u llenwi a’i cyflwyno cyn i’ch ysgol gau ar gyfer gwyliau’r Nadolig.
Mae croeso i holl athrawon mathemateg i fynychu unrhyw un neu bob un o’r dosbarthiaau meistr. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Hayley Owen hao9@aber.ac.uk drwy ebost.
Yr eiddoch yn gywir
Sofya Lyakhova
FMSP Wales Coordinator