Mynd i'r cynnwys

Dosbarthiadau Meistr y Sefydliad Brenhinol Blwyddyn 10 2025 – Prifysgol Bangor

DOSBARTHIADAU MEISTR MATHEMATEG AR FORE SADWRN

BethDosbarthiadau Meistr y Sefydliad Brenhinol
PwyMyfyrwyr galluog blwyddyn 10
PrydDydd Sadwrn 10:00-12:00 ar yr 8fed, 15fed, 22ain a 29ain o Fawrth 2025
BlePrifysgol Bangor L57 1UT
To book https://hub.furthermaths.wales/student-consent.php?event_id=55
This image has an empty alt attribute; its file name is aber-photo-1-1024x816.jpeg

AR GYFER DISGYBLION MWY GALLUOG A THALENTOG BLWYDDYN 10

Hoffem eich gwahodd i enwebu disgyblion sy’n alluog mewn mathemateg i fynychu Dosbarthiadau Meistr Mathemateg y Sefydliad Brenhinol i’w cynnal wyneb yn wyneb ym Mhrifysgol Bangor.  Bydd yn gyfres o 4 dosbarth ar ddydd Sadwrn mis Mawrth 2025 o 9:40 nes hanner dydd ar yr 8fed, 15fed, 22ain a 29ain o Fawrth 2025.

Mae’r sesiynau difyr yn cynnwys gweithdai ar Möbius, Fibonacci a phroblem Josephus.

Bydd tua 100 o leoedd ar gael i fyfyrwyr o ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth.  Bydd lle i DDAU wedi’i warantu i bob ysgol.  Gall pob ysgol enwebu hyd at bump o ddisgyblion yr hoffech i fynychu.  Efallai y bydd y galw am leoedd yn fwy na’r nifer sydd ar gael er y byddwn yn ceisio cynnig lle i bob disgybl sy’n cael ei enwebu. 

A wnewch chi bwysleisiwch i’ch disgyblion, tra ein bod yn anelu at sefydlu awyrgylch pleserus, y disgyblion a fydd yn cael y budd mwyaf yw’r rhai mwyaf gweithgar. Hoffem annog athrawon, os yn bosibl, i enwebu o leiaf cymaint o ferched â bechgyn ar gyfer ein Dosbarthiadau Meistr, gan fod merched yn aml yn cael eu tangynrychioli mewn mathemateg.

I gofrestru a wnewch eich myfyrwyr lenwi’r ffurflen ganiatâd yma: https://hub.furthermaths.wales/student-consent.php?event_id=55 erbyn 16 Ionawr 2025

Bydd myfyrwyr yn derbyn cadarnhad o’u lle ar y cwrs a rhagor o wybodaeth am y dosbarthiadau ar ôl y 16eg o Ionawr. Mae’r sesiynau hyn yn rhad ac am ddim ac yn cael eu cynnal yn y Ddarlithfa Fechan, Stryd y Deon, Bangor LL57 1UT. Mae croeso i holl athrawon mathemateg i fynychu unrhyw un neu bob un o’r dosbarthiadau meistr. 

A wnewch chi sicrhau bod eich ysgol wedi cofrestru gyda RhGMC YMA  cyn cofrestru ar unrhyw gwrs. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch ag e.w.clode@bangor.ac.uk.

Sofya Lyakhova

Arweinydd Rhaglen RhGMC