Datganiad i’r wasg diweddaraf Awst 2022

Cliciwch yma

Mae Cymru’n dathlu blwyddyn arall o lwyddiant gyda niferoedd myfyrwyr Mathemateg Safon Uwch a Mathemateg Bellach yn parhau i fod yn uchel yn 2022. Yn ôl y Cydgyngor Cymwysterau (2022) mae nifer y cymwysterau Mathemateg a Mathemateg Bellach a ddyfarnwyd yng Nghymru wedi tyfu ers 2019:

•            Mae niferoedd Mathemateg Safon Uwch wedi cynyddu o 3585 i 3796, cynnydd o 6%;

•            Safon Uwch Mae niferoedd Mathemateg Bellach wedi cynyddu o 550 i 615, cynnydd o 12%.

Mae’r RhGMBC yn falch y gall llawer mwy o bobl ifanc gael mynediad at gymwysterau Mathemateg Bellach a symud ymlaen i addysg uwch. Mae cymwysterau Mathemateg Bellach yn angenrheidiol neu’n ffafriol o hyd ar gyfer cael mynediad i rai rhaglenni gradd yn y DU ac mae ambell brifysgol yn gofyn i fyfyrwyr sefyll arholiadau ychwanegol ac uwch ym mathemateg.

Dywedodd Katy Knoyl, a fynychodd Ysgol Plasmawr ac a enillodd raddau A* mewn Mathemateg a Mathemateg Bellach ac a fydd yn dechrau ar radd Peirianneg Gemegol yng Ngholeg Imperial Llundain: “Roedd angen i mi astudio Mathemateg Bellach i fynd i Goleg Imperial. Heb RhGMBC ni fyddwn wedi gallu astudio Mathemateg Bellach. Diolch o galon i bawb, yn enwedig tiwtoriaid mathemateg pur bellach a esboniodd bopeth yn wych, helpodd fi a rhoi’r hyder i mi astudio Mathemateg Bellach a mynd ymlaen i’r brifysgol.”

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: “Rwy’n falch o weld canlyniadau positif ar gyfer Mathemateg a Mathemateg Bellach eleni ac mae yna dwf cyson yn parhau o’i gymharu â chanlyniadau cyn y pandemig.  Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach yn helpu i gyflawni gwaith gwerthfawr o ran meithrin cyfranogiad parhaus a chyrhaeddiad mewn Mathemateg ymhlith dysgwyr. Mae’r canlyniadau hyn yn rhoi gwaelodlin bositif i ni ar gyfer perfformiad mathemateg wrth i ni symud tuag at weithredu Cwricwlwm Cymru.”