BethMae RhGMBC yn datblygu cyfres o weithdai i gefnogi pob myfyriwr i ddatblygu meddylfryd ar gyfer unrhyw her fathemategol. Yn benodol yn y gyfres hon o weithdai rydym yn awyddus i edrych ar rai o’r rhwystrau sy’n aml yn gysylltiedig â dysgwyr benywaidd. Mae’r gweithdai hyn yn addas i bob myfyriwr.
PwyMae’r gweithdai hyn yn addas i bawb.
PrydCysylltwch â ni i drafod amsesr
Sut2 neu 3 awr
Wyneb yn wyneb
I archebualice.lovett@swansea.ac.uk

Rydym yn chwilio am ysgolion a hoffai inni gyflwyno’r gweithdai hyn yn eu hysgol. Bydd holiadur byr cyn ac ar ôl y gyfres o weithdai. Dewiswch grŵp blwyddyn neu weithdy isod a danfonwch e-bost atom i’w drafod ymhellach.

Dewiswch weithdy….

Pwy  Blwyddyn 7 
Teitl Ei Hanes Mathemateg Hi 
Manylion Cyfres o 2/3 gweithdy   
 Edrych ar gyflawniadau anhygoel merched of fewn STEM, ond yn bennaf M. 
Pwy  Blwyddyn 8 
Teitl Mae sawl ffordd o gael Wil i’w wely 
Manylion Cyfres o 2/3 gweithdy  
 Gwneud yr un broblem ond mewn sawl ffordd wahanol, gan alluogi myfyrwyr i ddod o hyd i ddull sy’n addas iddyn nhw a theimlo y gallant ddeall ac ailwneud pan fo angen.
Pwy  Blwyddyn 9 
Teitl Mathemateg, bwrw ati. 
Manylion Cyfres o 2/3 gweithdy 
 Brwydro yn erbyn jyst ‘bwrw ati‘ mewn mathemateg – rhoi esboniadau y tu ôl i rai o’r dulliau a’r algorithmau mae rhai yn ei addysgu heb reswm.
Pwy  Blwyddyn 10 
Teitl Mathemateg Pen Sharpie 
Manylion Cyfres o 2/3 gweithdy  
 Caniatáu i fyfyrwyr weithio gyda marcwyr parhaol yn unig.
Mae’r holl gamgymeriadau/adegau dysgu yn cael eu dadansoddi, eu dathlu, eu gwobrwyo a dylid eu hystyried yn hanfodol yn y camau tuag at lwyddiant.
Posteri/trydar/gwe-hysbys i’w gwneud i ddathlu’r camgymeriadau a wnaed ar y llwybr i lwyddiant wrth ymdrin â phroblemau mathemategol.
Pwy Blwyddyn 11 
Teitl Mathemateg Dina Asher 
Manylion Cyfres o 2/3 gweithdy  
 Ymestyn eich hun. Mae Dina Asher yn gwneud!
Bydd myfyrwyr yn gweithio ar gyfres o broblemau sy’n anoddach nag y bydden nhw erioed yn disgwyl eu cael. Gorhyfforddi’r ymennydd!