Cystadleuaeth bellach wedi cau.
Mae’n amser yna o’r flwyddyn eto! Amser i loywi eich sgiliau Desmos a chofleidio eich creadigrwydd Nadolig.
Dyma enillwyr gwych Rhagfyr 2023


I weld rhai enillwyr y gorffennol cliciwch yma

Croeso i gystadleuaeth creu Darlun Nadolig! Mae’n weddol syml, defnyddiwch Desmos i greu golygfa Nadoligaidd. Cymerwch gip ar ein rhestr chwarae youtubeNadolig Desmos i roi cychwyn arni a dechrau adeiladu!
Dyma diwtorial yn arbennig i helpu! Cystadleuaeth Nadolig Desmos 2023 – Tiwtorial Y Dyn Eira – YouTube
Os hoffai unrhyw athro gael mwy o arweiniad ar ddefnyddio Desmos, cysylltwch â Jen yma
Rhennir y gystadleuaeth yn dri chategori – Blwyddyn 7 & 8; Blwyddyn 9, 10 ac 11; Blwyddyn 12 a 13. Bydd taleb £15 ar gael ar gyfer y llun Desmos gorau ym mhob categori. Byddwn yn cysylltu â’r athro/athrawes i drefnu cyflwyno’r wobr!
I roi llun desmos myfyriwr yn y gystadleuaeth, cwblhewch a chyflwynwch y wybodaeth isod. 1 ffurflen ar gyfer pob myfyriwr. Dyddiad cau ar gyfer lluniau 19 Rhagfyr 2023.
I weld sut i gael yr url gwyliwch hwn.
Bydd y lluniau yn cael eu rhannu ar ein cyfrif Trydar @RhGBMC_FMSPW yn ogystal â’r enillwyr.
Enw’r Ysgol | |
Cod post yr Ysgol | |
Enw’r Athro | |
Ebost yr Athro | |
Cyfrif Trydar Ysgol/Adran | |
Enw’r Myfyriwr | |
Grŵp Blwyddyn | |
Url ar gyfer llun Desmos Myfyriwr |