BethCynhadledd Nadolig ym Mhrifysgol Caerdydd
PwyMyfyrwyr Blwyddyn 12
Pryd20 Rhagfyr 2023
9.30-14:30
I gofrestruAthrawon: https://forms.gle/9YcjN2nVpumFyxw98
Myfyrwyr: https://forms.gle/ZDfmpo9BD7KYHgVdA
Cwestiynau: fmspwales@swansea.ac.uk

Mwy o wybodaeth

Mae Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru yn falch o gynnal y Gynhadledd Nadolig i Flwyddyn 12 yn Adeilad Abacws, Prifysgol Caerdydd, ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 o ysgolion Cymru.

Bydd y diwrnod astudio yn cynnwys sesiynau adolygu, sgyrsiau mathemateg hwyliog, posau, sesiwn posteri a llawer mwy.

Cyfle i ddeall cynnwys mathemateg Safon Uwch

Ein nod yw annog pobl ifanc a rhannu pa mor hwyliog y gall mathemateg fod!

Ni fydd unrhyw gost am y diwrnod i ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth.

Nid oes angen i fyfyrwyr Blwyddyn 12 fod yng nghwmni athro, ond bydd mwy o wybodaeth, gan gynnwys ffurflenni caniatâd rhieni yn cael ei hanfon atoch pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer y gynhadledd.

Eleni dim ond 150 o leoedd sydd gennym a fydd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin, felly archebwch yn fuan.

Anfonir cydnabyddiaeth ar ôl derbyn y wybodaeth isod. Dyddiad Cau: 17 Rhagfyr 2023

Athrawon i gofrestru yma: https://forms.gle/9YcjN2nVpumFyxw98

Myfyrwyr i gofrestru yma: https://forms.gle/ZDfmpo9BD7KYHgVdA