Beth | Cyfres a fydd yn galluogi myfyrwyr i bontio tuag at astudio mathemateg yn y brifysgol |
Pwy | Myfyrwyr blwyddyn 13 sy’n ystyried cymryd gradd sy’n cynnwysllawer o fathemateg. |
Pryd | Yn wythnosol o Tachwedd 2024 – Mawrth 2025 |
Sut | Fidoes wedi’u recordio ymlaen llaw |
Athro i gofrestru: Neu Myfyrwyr unigol i gofrestru | https://hub.furthermaths.wales/book-event.php?event_id=51 https://hub.furthermaths.wales/student-consent.php?event_id=51 |

Mae RhGM Cymru yn cynnal cyfres gyffrous o gyflwyniadau wedi’u recordio ymlaen llaw a fydd yn galluogi myfyrwyr blwyddyn 13 i bontio tuag at astudio pynciau STEM yn y Brifysgol. Anaml y bydd amser yn ystod fframwaith addysgu ysgolion i weld sut y gellir defnyddio hafaliadau differol i fodelu epidemigau; neu i ymchwilio sut mae Rhifau Cymhlyg yn cynhyrchu’r set anhygoel Mandelbrot. Mae’r cwrs presennol yn gyfle i gysylltu ag Addysg Uwch i elwa o’u gwybodaeth ddofn o’r pwnc a’u cynefindra agos â mathemateg ar lefel prifysgol. Argymhellir y rhaglen i unrhyw fyfyrwyr sy’n ystyried cymryd gradd sy’n cynnwys llawer o fathemateg ym mis Medi 2025.

Mae mwyafrif y sgyrsiau’n cael eu paratoi gan academyddion mathemateg ac mae ychydig o sgyrsiau’n ystyried disgyblaeth stem arall lle mae mathemateg yn chwarae rhan bwysig, fel ffiseg, gwyddoniaeth gyfrifiadurol neu beirianneg. Bydd pob sesiwn yn cael ei recordio ymlaen llaw ac oddeutu 30 munud o hyd a bydd pob un ar gael am gyfnod cyfyngedig. Bydd cyfle i fyfyrwyr ofyn cwestiynau i’r darlithydd am y cyflwyniad trwy e-bost.
Gall athrawon goladu manylion y myfyrwyr sydd â diddordeb a chofrestru yma: https://hub.furthermaths.wales/book-event.php?event_id=51 a bydd y fideos yn cael eu gyrru atoch i’w dosbarthu neu gall fyfyrwyr gofrestru eu hunain i dderbyn y fideos yn uniongyrchol: https://hub.furthermaths.wales/student-consent.php?event_id=51
Am unrhyw gwestiynau eraill ebostiwch rhgmc-mspw@swansea.ac.uk
Bydd y fideo cyntaf yn cael ei ryddhau ar y 28ain o Dachwedd ac yna bob wythnos tan Pasg 2024.

Mae’r sesiynau hyn am ddim i bob disgybl mewn ysgolion/colegau a ariennir gan y Wladwriaeth yng Nghymru
