Beth | Arloesi a Chreadigedd mewn Addysgu Mathemateg |
Pam | Athrawon Mathemateg |
Pryd | 8 Gorffennaf 2022 08:30-13:10 |
I archebu | Cliciwch Yma |
Sut | Arlein |
Mwy o wybodaeth
Mae’n bleser gan Raglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru gyhoeddi ein trydedd gynhadledd ar gyfer athrawon Mathemateg o ysgolion a cholegau yng Nghymru.
Prif Sesiynau:
Ben Sparks – Creu Rhif
Mae’n debyg eich bod wedi clywed am Ben Sparks. Yn athro mathemateg ers 10 mlynedd, mae bellach yn rhoi sgyrsiau a gweithdai mathemateg ledled y byd, i fyfyrwyr, athrawon, a’r cyhoedd. Mae hefyd yn gwneud fideos ar gyfer y sianel YouTube wych Numberphile.
Colin Wright – Stribed Mobius Ymarferol
Mae gan Colin rif Erdos o 2, mae’n chwarae’r Game Of Go (yn wael), piano (gwaeth) a gall jyglo a beicio un olwyn. Mae hefyd ganddo ddoethuriaeth o Gaergrawnt mewn Cyfuniadeg a Theori Graff ac yn un o nifer o fathemategwyr a ddatblygodd nodiant ar gyfer mathemateg jyglo. Mae Colin yn adnabyddus yn y gymuned cyfathrebu mathemateg gan roi llawer o sgyrsiau mathemateg mewn ysgolion ledled y wlad.
Mae’r sesiynau yn cynnwys:
- Stribed Mobius ymarferol
- Tarddiad Termau Mathemategol
- Datrys problemau geometreg
- Dealltwriaeth ddyfnach o Dechnoleg Graffio
- Clybiau Mathemateg
Rydym yn cynnwys amser ar gyfer rhwydweithio, cyfnewid syniadau a hwyl. Rydym am gadw o leiaf flas ar y cyfnewid cymdeithasol ac anffurfiol o syniadau sy’n nodweddu cynhadledd dda ac felly byddwn yn defnyddio llwyfan sy’n caniatáu cymysgu a sgwrsio rhwng sesiynau a chaniatáu peth amser ar gyfer hynny.