Adnoddau Mathemateg Ychwanegol Desmos

BethAdnoddau Desmos Mathemateg Ychwanegol wedi’i ddiweddaru
PwyAthrawon i’w defnyddio gyda disgyblion Blwyddyn 10 ac 11
PrydNawr!
SutCwblhewch y ffurflen isod a byddwn yn rhannu’r ddolen gyda chi. Fel ein holl adnoddau, mae hwn am ddim
CwestiynauUnrhyw gwestiynau ebostiwch Vicky

Rhagor o wybodaeth

Rydym yn ail-ryddhau ein set o weithgareddau Ystafell Ddosbarth Desmos, a wnaed yn benodol i gefnogi myfyrwyr i baratoi ar gyfer yr arholiad Mathemateg Ychwanegol Lefel 2.

Mae’r gyfres o 16 o adnoddau yn galluogi myfyrwyr i weithio trwy bynciau’r cwrs Mathemateg Ychwanegol gyda’ch arweiniad neu hebddo. Credwn ei fod yn well gyda’ch arweiniad chi, ond maen nhw wedi’u cynllunio i alluogi myfyrwyr i astudio eu hunain os oes angen!

Mae’r gweithgareddau’n cynnwys nodweddion graffio a phedagogaidd Desmos er mwyn galluogi pawb sy’n eu defnyddio i weld y testunau mewn goleuni ychydig yn wahanol a chyda dimensiwn animeiddiedig.

Mae cymorth am ddim ar gael gan dîm RhGMBC os hoffech ychydig o help i ddechrau gyda Desmos. (Os oes gennych ddiddordeb yn Geogebra – gallwn helpu gyda hynny hefyd!) Rhowch wybod fanylion y grŵp o fyfyrwyr yr ydych yn bwriadu rhannu’r deunyddiau hyn â nhw ar gyfer ein cofnodion a gallwn rannu’r adnoddau gyda chi cyn gynted â phosibl.