Rydyn ni’n rhyddhau’r adnoddau rydyn ni wedi’u datblygu ar gyfer pedair sesiwn o glybiau mathemateg 1 awr a drealwyd mewn tair ysgol yn 2021 ac ers hynny wedi’u defnyddio mewn saith ysgol arall. Mae’r sesiynau hyn wedi cael eu defnyddio’n llwyddiannus gyda myfyrwyr blwyddyn 7 ac 8 o bob lefel gallu, gyda’r nod o helpu myfyrwyr i gael hwyl gyda mathemateg. Y pedair sesiwn yw:

  • fflecsagonau
  • codau a seiffrau
  • triciau
  • posau

Daw’r tri cyntaf o’r rhain gyda

1. cyflwyniad Powerpoint

2. set o nodiadau athro yn amlinellu’r paratoad sydd ei angen, sgript enghreifftiol, a syniadau ar gyfer addasu ac ymestyn

3. adnoddau y gellir eu llungopïo, lle bo angen

(Defnyddwyd bosau o’r Liverpool Fun Maths Roadshow i’r bedwaredd sesiwn, sef set o 350 o broblemau pos addas ar gyfer blynyddoedd 1 i 13, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg o http://livmathssoc.org.uk/FunMathsRoadshow/ am dâl. Does dim angen cyflwyniad ac mae’n cynnwys cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r adnoddau.)

Mae’r adnoddau yma (Bydd angen eich cyfrinair cofrestru i gael at rhain).