WhatCynhadledd Arloesi a Chreadigrwydd mewn Addysgu Mathemateg
PayAthrawon
Pryd26 Mehefin 2021
09:30-15:30
SutCofrestrwch gyda RhGMC, yna archebwch
ArchebuEventbrite booking
‘Cynhadledd wych, pobl wych’

Mwy o wybodaeth

Yn dilyn ein Cynhadledd agoriadol lwyddiannus iawn ym mis Gorffennaf 2019, mae’n bleser gan Raglen Gymorth Mathemateg Cymru gyhoeddi ein hail gynhadledd undydd ar gyfer athrawon Mathemateg o ysgolion a cholegau yng Nghymru.

Bydd pedair sesiwn yn ystod y diwrnod gyda llawer o ddewis ym mhob sesiwn. Cyflwynir sesiynau gan arbenigwyr RhGMBC, athrawon ac academyddion. Mae’r themâu yn fras: Technoleg, STEAM, YstadegaethCyfoethogi, Merched mewn Mathemateg, Addysgeg

Gallai ein sesiynau helpu athrawon i weithredu’r Cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru. Rhai enghreifftiau:

o’r Cwricwlwm i GymruSesiwn
Mae hefyd yn dysgu’r gwahaniaeth rhwng dyfaliad, tebygrwydd a phrawf.Prawf: O flwyddyn 8 i Fathemateg Bellach
Er mwyn cymhwyso mathemateg mae angen gallu strategol o ran defnyddio syniadau haniaethol a modeluModelu drwy Ddyfalbarhad
Mae’n hanfodol felly fod profiadau mathemateg a rhifedd mor gyffrous, diddorol a hygyrch â phosibl i ddysgwyrAr eich cycloid am daith epig!
Llwyddiant Dosbarthiadau Meistr Mathemateg Cynradd dan arweiniad chweched dosbarth
Mae’n ddisgyblaeth wirioneddol ryngwladol, ac mae o’n cwmpas ni i gyd ac yn sail i gynifer o agweddau ar ein bywydau bob dydd, megis pensaernïaeth, celfyddyd…Ffractalau a Geometreg Sanctaidd
Barddoniaeth mewn Gwersi Mathemateg
Anrhefn Rhyngddisgyblaeth: celf, mathemateg a dysgu mathemateg
Mae gweithgareddau mathemategol yn dysgu dysgwyr i beidio ag ofni problemau anghyfarwydd neu gymhlethHyrwyddo datrys problemau
Mae mathemateg a rhifedd hefyd yn gallu helpu dysgwyr i ddod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd drwy eu harfogi i ddadansoddi data yn feirniadol, gan eu galluogi i ddatblygu safbwyntiau gwybodus ar faterion cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd ac amgylcheddolMae angen i ni siarad am ystadegau: Pwrpas ystadegau yw treiddio nid rhifau
Delweddu Ystadegau a’r Cylch Ymchwilio
Dylai ymarferwyr ystyried y defnydd priodol o ystod o dechnolegau digidol… Mathemateg Arloesol a Chreadigol trwy Dechnoleg – Datgloi Chwilfrydedd er mwyn Ymgysylltu 
Dylunio tasgau diddorol yn Desmos

Mae gennym dri phrif gyflwyniad eleni! 

Dr Alison Clark-Wilson
Prif Gydymaith Ymchwil Lab Gwybodaeth UCL, Athrofa Addysg UCL
Mathemateg Arloesol a Chreadigol trwy Dechnoleg – Datgloi Chwilfrydedd ar gyfer Ymgysylltiad Dwfn
Neil Sheldon
Cyn Is-lywydd y Gymdeithas Ystadegaeth Frenhinol; Cadeirydd Yr Ymddiriedolaeth Addysgu Ystadegaeth
WMae angen i ni siarad am ystadegau – Pwrpas ystadegau yw treiddio nid rhifau
Dr Sofya Lyakhova
Darlithydd Cyswllt Mathemateg Prifysgol Abertawe; Arweinydd Rhaglen RhGMBC
Anhrefn Rhyngddisgyblaeth – Celf, mathemateg ac addysgu mathemateg

Rydym yn cynnwys amser ar gyfer rhwydweithio, cyfnewid syniadau a chael hwyl. Rydym am gadw blas o leiaf ar y cyfnewid syniadau cymdeithasol ac anffurfiol sy’n rhan o Gynhadledd dda ac felly byddwn yn defnyddio platfform sy’n caniatáu cymysgu a sgwrsio rhwng sesiynau a chaniatáu digon o amser ar gyfer hynny.