Mynd i'r cynnwys
BethGeogebra Ar Awl
PwyAthrawon CA4 a CA5
PrydAr Awl
SutAr Awl
To bookrhgmc-mspw@swansea.ac.uk

Rhagor o wybodaeth

Mae RhGMC yn falch o allu cynnig cyrsiau ar gymhwyso Geogebra mewn addysgu TGAU a Safon Uwch.

Eleni byddwn yn cynnig y cyrsiau hyn mewn fformat Ar Alw. Mae’r dull Ar Alw newydd hwn yn opsiwn astudio ar-lein hyblyg, sy’n defnyddio amrywiaeth o ffyrdd dysgu fel fideos darlithoedd dan arweiniad tiwtor ac adnoddau pecynnau gwaith i adeiladu eich sgiliau a chadarnhau eich dealltwriaeth. Bydd cymorth hefyd ar gael i gyfranogwyr drwy e-bost, ac o bosibl sesiynau byw ar-lein.

Mae gennym ystod eang o gyrsiau Geogebra ar gael, sy’n addas ar gyfer newydd-ddyfodiaid llwyr i’r feddalwedd, a’r rhai sydd â rhywfaint o brofiad eisoes ac a hoffai wella eu sgiliau, neu a hoffai gael sesiwn gloywi. Os hoffech weld y math o bynciau y gellir eu cwmpasu yn y cyrsiau, cliciwch yma.

Byddem yn argymell bod cyfranogwyr yn lawrlwytho fersiwn Classic 5 neu Classic 6 Geogebra ar gyfer y sesiynau hyn.

Bydd y cwrs hwn yn cael ei ardystio. Er mwyn derbyn Tystysgrif, bydd disgwyl i gyfranogwyr fynychu o leiaf un o’r sesiynau a chwblhau, i lefel foddhaol, dasg wedi’i hasesu sy’n cynnwys dylunio rhaglennig Geogebra syml ac ymwybyddiaeth o sut y gellir ei defnyddio o fewn y rhaglen addysgu.

Byddwch yn cael eich cofrestru ar sianel Microsoft Teams sy’n cael ei monitro lle bydd cyfarwyddiadau llawn yn eich arwain trwy’r cwrs ar eich cyflymder eich hun.

Mae cyfle yn sianel Teams i gydweithio ag eraill sy’n gwneud y cwrs a fforwm lle gallwch drafod materion ac addysgeg y pynciau.

Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r cwrs a’i fod yn ategu ac yn cyfrannu at eich rhaglen datblygiad personol.

I ymuno â’n cwrs Ar Alw, e-bostiwch rhgmc-mspw@swansea.ac.uk