Beth | Mathemateg Bellach 6 – Cwrs Dysgu Proffesiynol (Mecaneg Bellach) |
Pwy | Athrawon CA5 |
Pryd | Ar Alw |
Sut | Ar Alw |
I archebu | rhgmc-mspw@swansea.ac.uk |
Mwy o wybodeath
Bydd y cwrs Ar Alw hwn yn rhoi sylw cynhwysfawr i MBU6 ac mae wedi’i anelu at athrawon sy’n cyflwyno Mathemateg Safon Uwch ar hyn o bryd ac a hoffai gyflwyno Mathemateg Bellach, neu athrawon sy’n addysgu Mathemateg Bellach ar hyn o bryd ac a hoffai gael sesiwn gloywi.
Bydd y pynciau a drafodir yn y cwrs hwn yn cynnwys:
Ergyd a Momentwm | Ergyd a momentwm fel fectorau. Cyfernod adfer Ardrawiadau ar letraws sfferau llyfn o faint hafal Tensiynau ergydiol |
Momentau a Chreiddiau Màs | Momentau. Craidd màs system o ronynnau Creiddiau màs laminâu syml |
Stateg | Creiddiau màs laminâu a solidau gan ddefnyddio integru Stateg Bellach |
Hafaliadau Differol ym Mecaneg | Defnyddio hafaliadau differol ym Mecaneg Cyflwyno Mudiant Harmonig Syml Cinemateg Mudiant Harmonig Syml |
Osgiliadau | Enghreifftiau o Fudiant Harmonig Syml Osgiliadau Anghyflawn Osgiliadau Gwanychol Osgiliadau Gorfod |
Mae’r dull Ar Alw newydd hwn yn opsiwn astudio ar-lein hyblyg, sy’n defnyddio amrywiaeth o ddulliau dysgu fel fideos darlithoedd dan arweiniad tiwtor ac adnoddau pecyn gwaith i adeiladu eich sgiliau a chryfhau eich dealltwriaeth.
Mae Ar Alw yn rhoi’r hyblygrwydd i chi astudio pryd a ble y dymunwch; amser cinio, gwersi rhydd neu gartref ac ar eich cyflymder eich hun. Nid oes dyddiad dechrau na dyddiad gorffen – mae hynny yn eich dwylo chi a gallwch astudio yn y modd hwn dros fwy nag un flwyddyn academaidd.
Byddwch yn cael eich cofrestru ar sianel Microsoft Teams sy’n cael ei monitro lle bydd cyfarwyddiadau llenwi yn eich arwain trwy’r cwrs ar eich cyflymder eich hun.
Mae cyfle yn sianel Teams i gydweithio ag eraill sy’n gwneud y cwrs a fforwm lle gallwch drafod materion ac addysgeg y pynciau.
Er mwyn annog cyfranogiad gweithredol yn y cwrs, mae rhaglen ardystio yn cael ei chyflwyno: bydd tystysgrifau’n cael eu rhoi i gyfranogwyr sy’n cwblhau’r cwrs ac yn dangos eu dealltwriaeth o’r cysyniadau a’u haddysgu trwy raglen o aseiniadau byr ar ddiwedd pob sesiwn. Eglurir hyn yn y sianel Teams.
Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r cwrs a’i fod yn ategu ac yn cyfrannu at eich rhaglen datblygiad personol.
I ymuno â’n cwrs Ar Alw, e-bostiwch rhgmc-mspw@swansea.ac.uk