Gwersyll Rhyngwladol Mathemateg 2023

BethGwersyll Mathemateg Ryngwladol i fyfyrwyr o Gymru, Awstralia a’r Almaen.
PamMyfyrwyr 15+ oed gyda diddordeb brwd mewn mathemateg
PrydDydd Sadwrn 14 Hydref (08:00-11:00) a dydd Sadwrn 28 Hydref (08:00-11:00)
SutAr-lein 
I archebue.w.clode@swansea.ac.uk

Mwy o wybodaeth

Annwyl athro

Mae croeso i fyfyrwyr o Gymru ymuno â gwersyll mathemateg ar-lein rhyngwladol i weithio ar broblemau mathemateg ochr yn ochr â myfyrwyr ac academyddion o Awstralia a’r Almaen. Bydd y gwersylloedd yn cael eu rhedeg ar-lein gan ddefnyddio platfform addysgu a dysgu ar-lein am ddim (manylion a chyfarwyddiadau ymuno i’w hanfon at gyfranogwyr sydd wedi’u cadarnhau). Bydd myfyrwyr yn mynychu dwy sesiwn. Mae pob sesiwn yn cynnwys dau Fyd Mathemateg. Mae pob sesiwn yn 3 awr. Bydd y gweithgareddau i fyfyrwyr o Gymru yn digwydd ar ddydd Sadwrn 14eg Hydref  (8:00-11:00) a dydd Sadwrn 28ain o Hydref (8:00-11:00). Bydd myfyrwyr o Gymru yn cael eu goruchwylio gan academyddion o Brifysgol Abertawe, dim ond 30 o leoedd sydd ar gael ar draws pob gwlad. I wneud cais, e-bostiwch y cyfeiriad isod i dderbyn rhagor o wybodaeth a ffurflenni caniatâd rhieni. Rhaid i fyfyrwyr fod yn 15+ oed gyda diddordeb brwd mewn mathemateg. Mae’r gwersyll yn rhad ac am ddim. Mae croeso i’r athrawon fynychu ochr yn ochr â’u myfyrwyr (hyd at 5 myfyriwr). Gweler rhai problemau o wersylloedd blaenorol yma http://furthermaths.wales/cy/bydoedd/

I wneud cais am y digwyddiad cyffroes yma e-bostiwch e.w.clode@swansea.ac.uk gyda enwau eich myfyrwyr erbyn dydd Mercher 11eg o Hydref.

Gwersyll Mathemateg Rhyngwladol Ddiweddar: