Sgiliau Dadansoddol
Sgiliau dadansoddi yw’r rhai sy’n ein helpu i ddeall a datrys problemau. Maent yn dibynnu ar wybod neu allu dod o hyd i wybodaeth berthnasol yn ogystal â meddwl yn rhesymegol i ddefnyddio’r wybodaeth hon i ddod o hyd i ateb. Mae datrys problemau mathemategol yn darparu hyfforddiant rhagorol i ddatblygu’r sgiliau hyn.
Mathemateg yw’r unig bwnc Safon Uwch sy’n cynnig dau gymhwyster Safon Uwch – Mathemateg a Mathemateg Bellach. Yn eu canllaw ‘Informed Choices’ o dan “Pa bynciau sy’n rhoi’r mwyaf o opsiynau ichi” mae’r Grŵp Russell o 24 o Brifysgolion blaenllaw’r DU yn rhestru Mathemateg a Mathemateg Bellach ar y brig.
“Mae sgiliau mathemateg lefel uchel yn agor drysau i gymaint o yrfaoedd i’n dysgwyr a rhaid inni eu cefnogi i gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo”
Cyn-Weinidog Addysg Cymru Huw Lewis.
Cymhwyso i feysydd eraill
Mae galw mawr am y sgiliau a enillwyd o astudio pwnc gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg neu fathemateg (STEM) Safon Uwch neu lefel gradd gan gyflogwyr. Mae graddedigion sydd â graddau STEM yn ennill cyflogau 5% i 10% yn uwch ar gyfartaledd nag ar gyfer graddedigion yn gyffredinol.
Mae ystod eang o bynciau STEM a phynciau nad ydynt yn bynciau STEM yn seiliedig ar fathemateg. Bydd bod â gwybodaeth fathemategol eang a gallu technegol sicr yn helpu’r trosglwyddiad o’r chweched dosbarth i addysg uwch. Wrth gwrs, mae tiwtoriaid derbyn a chyflogwyr yn chwilio am y gallu i weithio mewn tîm, cyfathrebu’n effeithiol a dangos menter, ond mae sgiliau mathemategol da hefyd yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr.
Addysg Uwch a Gyrfaoedd
- Mathscareers
Gwybodaeth am y nifer o yrfaoedd hynod ddiddorol y gall astudio mathemateg arwain atynt. - Plus Magazine
Cyfweliadau â phobl a gymerodd raddau cysylltiedig â mathemateg, gan egluro eu llwybr gyrfa a’r hyn y maent yn ei wneud nawr. - Prospects
Yn manylu ar yrfaoedd posib yn dilyn gradd mathemateg, a gyrfaoedd eraill sy’n gofyn am Fathemateg Safon Uwch. - Royal Statistical Society
Canllawiau ac erthyglau defnyddiol ar gyfer gyrfaoedd sy’n defnyddio ystadegau. - Russell Group
I’ch helpu i ddeall pa bynciau sy’n arwain at wahanol raddau, yn benodol ym mhrifysgolion Grŵp Russell. - StatsLife
Canllawiau ar yrfaoedd sy’n defnyddio ystadegau. - UCAS website
Mae gan wefan UCAS amrywiaeth o offer ar gyfer helpu myfyrwyr i ddewis y cwrs iawn ar gyfer addysg uwch. - AMSP
Mae gan wefan AMSP dudalennau defnyddiol ‘Beth Nesaf’ ar gyfer Mathemateg Safon Uwch / UG a Mathemateg Bellach.
Mae sawl prentisiaeth Uwch a Gradd yn cynnig llwybrau i yrfaoedd sy’n llawn mathemateg, gan gynnwys cyfrifeg, gwyddoniaeth actiwaraidd, pensaernïaeth, peirianneg a gwyddoniaeth data.
Gyrfaoedd mewn Mathemateg
Cymerwch gip ar ein fideos gyrfaoedd mewn mathemateg