Beth | Dosbarthiadau Meistr y Sefydliad Brenhinol |
Pwy | Myfyrwyr blwyddyn 10 |
Pryd | Dydd Mercher 4:30pm-6:30yh ar 2il, 9fed, ac 16eg o Orffennaf 2025 |
Sut | Ar-lein |
I enwebu | https://forms.gle/FrhgMepKMgPVPpmQA |
Rhagor o wybodaeth
Hoffem eich gwahodd i enwebu disgyblion sy’n alluog yn fathemategol i fynychu Dosbarthiadau Meistr Mathemateg y Sefydliad Brenhinol sydd i’w cynnal ar-lein. Bydd y 3 dosbarth ar ddydd Mercher o 3.30pm tan 6:30pm ar Orffennaf yr 2il, 9fed a 16eg.
Bydd tua 60 o leoedd ar gael i gyd. Bydd yr holl leoedd yn cael eu dyrannu ar sail yr un gwahoddiad hwn a gwarantir DAU le i bob ysgol. Dyma ddolen i ffurflen enwebu’r ysgol i chi restru hyd at bum disgybl yr hoffech chi fynychu: https://forms.gle/FrhgMepKMgPVPpmQA Gall y galw am leoedd fod yn fwy na’r nifer sydd ar gael er y byddwn yn ceisio cynnig lle i bob disgybl sy’n cael ei enwebu. Os byddwch yn enwebu mwy na dau ddisgybl rhowch nhw yn nhrefn blaenoriaeth fel y gellir cynnig lleoedd heb gysylltu â chi.
Hoffem annog athrawon, os yn bosibl, i enwebu o leiaf cymaint o ferched â bechgyn ar gyfer ein Dosbarthiadau Meistr, gan fod merched yn aml yn cael eu tangynrychioli mewn mathemateg.
Dosbarthwch y ffurflen caniatâd rhieni hon: https://hub.furthermaths.wales/student-consent.php?event_id=70 i’r disgyblion a enwebwyd. Pwysleisiwch i’r disgyblion, tra ein bod yn anelu at sefydlu awyrgylch waith bleserus, y disgyblion a fydd yn cael y budd mwyaf yw’r rhai mwyaf sylwgar a gweithgar.
Cwblhewch y ffurflen enwebu a’r ffurflenni caniatâd rhieni erbyn dydd Llun 2 Mehefin 2025 fan bellaf.
Mae croeso i bob athro mathemateg fynychu unrhyw un neu bob un o’r dosbarthiadau meistr. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost fmspwales@swansea.ac.uk.