Mae RhGMC yn cynnal dau gwrs ar ddatrys problemau i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio pynciau cysylltiedig â STEM yn y prifysgolion gorau. Mae datrys problemau, y gallu i fynd i’r afael â phroblemau nad yw’r dull datrys yn glir ar eu cyfer, yn rhan allweddol o fathemateg. Mae angen i ddatryswyr problemau da, yn ogystal â dealltwriaeth gysyniadol a rhuglder gweithdrefnol, ddatblygu sgiliau ac agweddau eraill: meddwl mathemategol i ffurfio ac addasu cynlluniau ymosod; cadw’n hyderus, pan fyddant yn cael trafferth, yn eu gallu i wneud cynnydd; cof am atebion i broblemau eraill a allai fod yn ddefnyddiol. Bydd y cyrsiau hyn yn helpu myfyrwyr ymroddedig i gaffael yr adnoddau hyn.
Bydd myfyrwyr sy’n dilyn y naill neu’r llall o’r cyrsiau hyn yn cynyddu eu galluoedd ac yn ennill mwy o werthfawrogiad a mwynhad o fathemateg; bod yn fwy parod ar gyfer unrhyw bapurau mynediad mathemateg sy’n canolbwyntio ar broblemau prifysgol (AEA, MAT, PAT, STEP, TMUA); a bod yn fwy parod ar gyfer dysgu a defnyddio mathemateg newydd yn y brifysgol. Y ddau gwrs yw:
Paratoi ar gyfer STEP Blwyddyn 13
Bydd y cwrs Paratoi ar gyfer STEP Blwyddyn 13 yn seiliedig ar fodiwlau STEP II a STEP III a ddarperir gan y rhaglen gymorth STEP. Mae’r cwrs yn gyfuniad o 16 sesiwn ar lein a 2 sesiwn wyneb yn wyneb. Mae’r cwrs am ddim ac ar gael i holl ddisgyblion ysgolion y wladwriaeth yng Nghymru.
Pam | Blwyddyn 13 |
Pryd | 2 sesiwn hybrid 10:00-13:00. 16.11.24 a 14.12.24 16 sesiwn ar-lein Dyddiau Mawrth 6pm to 7pm– 1, 8, 15, 22 Hydref 2024 5, 26 Tachwedd 3 Rhagfyr 14, 21, 28 Ionawr 2025 4, 11, 18 Chwefror 4, 11 a 18 Mawrth |
Sut | 2 sesiwn wyneb-yn-wyneb ym Mhrifysgol Aberystwyth, Abertawe, Bangor, Caerdydd neu Wrecsam a 16 sesiwn ar-lein ar Teams |
I archebu | Mae gofyn i fyfyrwyr gofrestru yma i gael mynediad i’r cyrsiau hyn. https://hub.furthermaths.wales/student-consent.php?event_id=40 |
Bydd fformat y cwrs yn ôl-drafodaeth awr ar-lein ar broblemau’r wythnos flaenorol, gan dynnu sylw at unrhyw bwyntiau dysgu allweddol, a rhoi anogaeth i fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr fod yn hunan-ysgogol, gyfrifol a gweithio ar y problemau rhwng sesiynau ̶ mewn gwirionedd, dyma ran hanfodol y ddau gwrs.
Bydd pob sesiwn trwy gyfrwng Saesneg, ond bydd cefnogaeth i’r rhai sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Unrhyw gwestiynau ebostiwch e.w.clode@swansea.ac.uk