Beth | Cyfres o bum sesiwn ar-lein i baratoi at y papur MAT/TMUA |
Pam | Ar gyfer disgyblion sy’n anelu at sefyll y prawf MAT/TMUA ym mis Hydref 2025 |
Pryd | 7 a 14 Gorffennaf, 8 a 22 Medi, a 6 Hydref 4:30-5:30 |
Sut | Ar lein ar Teams |
I archebu | Ffuflen gofrestru https://hub.furthermaths.wales/student-consent.php?event_id=71 |

Byddwn yn cynnal cyfres o bum sesiwn paratoi MAT/TMUA ar-lein ar gyfer disgyblion blwyddyn 12 presennol (2024/2025) sy’n anelu at sefyll MAT/TMUA ym mis Hydref 2025 neu TUMA ym mis Ionawr 2026. (Profion mynediad mathemateg prifysgol yw’r MAT a TMUA a ddefnyddir gan lawer o brifysgolion; gwiriwch ofynion mynediad cyrsiau prifysgol i weld a oes eu hangen).
Bydd y sesiynau hyn hefyd yn ddefnyddiol i fyfyrwyr sy’n paratoi ar gyfer unrhyw brawf sy’n gofyn am sgiliau datrys problemau mathemategol megis ESAT Mathematics 2, PAT, STEP neu ar gyfer unrhyw fyfyriwr sy’n dymuno gwella eu sgiliau yn y maes hwn.
Cyflwynir pob sesiwn trwy gyfrwng Saesneg, fodd bynnag, gallwn gynnig rhywfaint o gymorth cyfrwng Cymraeg, felly rhowch wybod i ni os oes angen hyn. Gellir gofyn am recordiad hefyd.
Mae’r sesiynau yn fyw ar Teams. I gofrestru llenwch y ffurflen ar-lein gyda chaniatâd rhieni yma: https://hub.furthermaths.wales/student-consent.php?event_id=71
Am unrhyw gwestiynau ebostiwch e.w.clode@swansea.ac.uk