Mathemategydd y mis


Vi Hart

Ganwyd:

1988 

Beth maen nhw’n ei wneud? Ar beth maen nhw’n gweithio? 

Mae Vi Hart yn fathemategydd Americanaidd a youtuber.  Roedd eu tad yn gerflunydd mathemategol. Mae gan Vi Hart eu sianel youtube eu hunain ac mae’n creu llawer o fideos sy’n cyfuno mathemateg a cherddoriaeth. 

Gan Vi…  
“Roedd Mathemateg, yn ôl yr arfer, yn fy niflasu heddiw, felly dechreuais ddwdlo. Dechreuais dynnu llun eliffantod, a dechrau chwarae o gwmpas gyda’r syniad o faint o eliffantod fyddai’n ffitio ar dudalen fy llyfr nodiadau. Wrth i mi ddal i dynnu llun, deuthum i’r casgliad pe bawn yn dal i dynnu llun yrr eliffantod yn llai ac yn llai ar draws y dudalen, byddai nifer yr eliffantod yn ddiderfyn. Ailadroddais broses debyg gyda chamelod, ac yna symudais yn y pen draw at ffigurau nad oedd yn  siâp mamaliaid, fel sgwariau a thrionglau. Darganfûm, gydag unrhyw siâp penodol, y bydd nifer anfeidrol lai o gylchoedd yn ffitio y tu mewn. Mae hon yn broses ffractal, oherwydd ni waeth ble rydych chi’n chwyddo’r siâp, bydd bob amser yn edrych yr un peth a bydd bob amser yn tyfu’n llai anfeidrol. Eironi’r mater oedd mai pwnc mathemateg heddiw oedd symiau anfeidrol, a dyna’n union yr oeddwn i wedi bod yn ei ddwdlo. Yn union faint o nifer anfeidrol o eliffantod sydd ar fy nhudalen? Sylweddolais eu bod yn tyfu’n agosach ac yn agosach at un. Gellir cymhwyso hyn gan ddefnyddio camelod, neu’n llai diddorol, trionglau, sgwariau, a siapiau amrywiol eraill y gall cylchoedd eu llenwi.” 


Dolenni ar gyfer darllen pellach 

  1. https://youtu.be/D2xYjiL8yyE 
  2. https://vihart.weebly.com/

Sofya Kovalevskaya 

Oed:

15 Ionawr 1850 – 10 Chwefror 1891 

Beth wnaethon nhw? Ar beth roedden nhw’n gweithio? 

  • Y fenyw gyntaf i gael doethuriaeth mewn mathemateg 
  • Y fenyw gyntaf i gael proffeswriaeth lawn yng ngogledd Ewrop 
  • Y fenyw gyntaf i fod yn olygydd cyfnodolyn gwyddonol 

Nid yn unig yn fathemategydd gwych ond hefyd yn eiriolwr cryf dros hawliau menywod. Arweiniodd ei brwydr i gael mynediad a chael yr addysg orau bosibl at agor drysau i fenywod mewn prifysgolion. Ar ben hynny, helpodd ei gwaith tuag at ailystyried y syniad o israddoldeb menywod i ddynion mewn astudiaeth wyddonol. 

  • Er mwyn mynychu prifysgol yn y Swistir, (y brifysgol agosaf a fyddai’n derbyn menywod) roedd yn rhaid i Sofya fod yn briod. 
  • Ym 1874 derbyniodd Sofya ddoethuriaeth o Brifysgol Gottingen 
  • Ymhellach ymlaen dechreuodd Sofya ddarlithio ym Mhrifysgol Stockholm. 
  • Ym 1888 cyhoeddodd y papur “On the Rotation of a Solid Body about a Fixed Point” – roedd y papur hwn mor uchel ei barch fel y cynyddwyd y wobr ariannol o 3000 i 5000 ffranc. 

Dolenni ar gyfer darllen pellach:

  1. https://mathwomen.agnesscott.org/women/kova.htm
  2. https://mathshistory.st-andrews.ac.uk/Biographies/Kovalevskaya/

Katherine Johnson

Oed:

Awst 26 1918 – Chwefror 24 2020

Beth wnaethon nhw? Ar beth roedden nhw’n gweithio?

  • 1953-1958: Roedd Katherine yn gweithio i NACA (a ddisodlwyd yn ddiweddarach gan NASA), teitl ei swydd oedd cyfrifiadur, lle bu’n gweithio fel rhan o grŵp o fenywod oedd yn gwneud cyfrifiadau mathemategol.
  • Roedd bod yn gyfrifiadur, yn golygu cyflawni tasgau mathemategol manwl gywir.
  • Un diwrnod, gofynnwyd i Katherine i gefnogi tîm ymchwil hedfan o ddynion a phrofodd gwybodaeth Katherine o geometreg ddadansoddol yn amhrisiadwy iddynt.
  • Roedd Katherine yn benderfynol a helpodd hyn iddi i sicrhau ei bod yn cael ei chynnwys mewn cyfarfodydd lle byddai rhwystrau hiliol a rhyw yn flaenorol wedi ei hatal rhag mynychu. Roedd Katherine wedi gwneud y gwaith ac roedd hi’n gwybod mai dyma le’r oedd hi’n perthyn.
  • Hyd at 1958: Roedd Katherine yn rhan o dîm cyfrifiadurol ar wahân, lle yn unol â chyfreithiau’r wladwriaeth, roedd yn rhaid i fenywod Affricanaidd-Americanaidd weithio, bwyta a defnyddio toiledau ar wahân i’w cyfoedion gwyn.
  • Cyfrifodd Katherine lwybr taith yr Americanwr cyntaf yn y gofod ym 1961.
  • 1969: Helpodd Katherine i gyfrifo’r llwybr hedfan Apollo 11 i’r Lleuad

Dolenni ar gyfer darllen pellach:

  1. https://en.wikipedia.org/wiki/Katherine_Johnson#